Y Ganolfan Eifftaidd yn ennill Gwobr Diana ar gyfer Gwirfoddolwyr Penigamp!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe unwaith eto’n dathlu cyfraniad ei gwirfoddolwyr ifanc gwych, y "Nubies", sydd wedi ennill Gwobr Diana ar gyfer Gwirfoddolwyr Penigamp.

Cafodd ‘Nubies'y Ganolfan Eifftaidd eu henwebu am eu gwaith gwych fel cynorthwywyr oriel, gan helpu'r cyhoedd i brofi’r hen Aifft a chasgliad yr amgueddfa mewn ffordd newydd a chyffrous! Maent yn dod â bywyd ac egni i'r amgueddfa ar ddyddiau Sadwrn, ac adlewyrchir hyn dro ar ôl tro ym mhrofiad yr ymwelwyr. Mae'r rhaglen ‘Nubie’ wedi bod ar waith ers dros 10 mlynedd, a thrwy gydol y cyfnod hwn mae'r gwirfoddolwyr ifanc wedi rhedeg yr amgueddfa ar ddyddiau Sadwrn, heb ymyrraeth oedolion. Mae'r rhaglen mor boblogaidd fel bod yna restr aros am lefydd arni!

Un o'r rhesymau y cafodd yr amgueddfa ei henwebu oedd ei ffordd unigryw o ddefnyddio pobl ifanc o bob math o gefndiroedd i redeg yr amgueddfa. Er enghraifft, ymunodd Hywel Jones, 15 oed, o Lanelli, â’r Ganolfan Eifftaidd pan oedd yn 10 mlwydd oed. Mae gan Hywel Aspergers ac anawsterau dysgu eraill ac ers iddo ddechrau gwirfoddoli mae e wedi dod yn ei flaen yn aruthrol.

Hywel Jones Diana Award

Gall sefyllfaoedd cymdeithasol fod yn her i Hywel ond mae bod yma wedi ei helpu i wneud ffrindiau, gweithio mewn tîm, a hyn oll wrth gael hwyl, fel y mae’n ei ddisgrifio, "Rwy'n mwynhau gweithio yn y Ganolfan Eifftaidd gan fy mod i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd yn ystod y blynyddoedd rwy’ wedi bod yno. "

Meddai Ashleigh Taylor, Rheolwr Gwirfoddolwyr, "Mae'n wych bod y wobr hon yn cydnabod y gwaith ardderchog y mae gwirfoddolwyr ifanc, megis Hywel, yn ei gyfrannu, nid yn unig at ein hamgueddfa ond hefyd at ein cymdeithas. Mae’n bleser gweithio gyda nhw, ac maent yn haeddu gwobr am eu brwdfrydedd, eu hymrwymiad, a’u harbenigedd yn eu maes, sy’n well na'r rhan fwyaf o oedolion!”

 Dywedodd Maggie Turner OBE a Phrif Weithredwr Gwobr Diana: "Mae'n hanfodol bod pobl ifanc, fel y Nubies sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu cymunedau lleol, yn cael eu cydnabod gyda Gwobr. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn eu hysbrydoli i barhau â helpu eraill ac i wella’n cymdeithas. Bydd y bobl ifanc yn mynd ymlaen i fod yn  arweinwyr y dyfodol."

Cafodd Wobr Diana ei sefydlu yn 1999 gan lywodraeth y DU fel cymynrodd barhaol i gred Diana, Tywysoges Cymru yng ngallu pobl ifanc i newid y byd. Mae'r wobr yn annog pobl ifanc eithriadol, fel gwirfoddolwyr y Ganolfan Eifftaidd, i greu cymdeithas well i bawb!