Academydd o Abertawe'n cynghori ymholiad seneddol i blant mudol ar eu pen eu hunain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw'n tynnu ar ymchwil a gynhaliwyd gan academydd o Brifysgol Abertawe i brofiadau plant mudol ar eu pen eu hunain yn y DU.

Prof Heaven CrawleyCafodd yr Athro Heaven Crawley sy'n Gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Polisi Ymfudo (CMPR) ym Mhrifysgol Abertawe ei phenodi ym mis Tachwedd 2012 yn Gynghorydd Arbenigol i'r  Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol (JCHR)  a benodir gan Dŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin i ystyried materion yn ymwneud â hawliau dynol yn y DU.

Mae'r Athro Crawley wedi'i hystyried yn un o arbenigwyr blaenllaw'r wlad ar system ceisio lloches y DU ac mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar sawl agwedd o’r broses loches am dros 20 mlynedd. Cyn ymuno â'r Brifysgol bu'n arwain rhaglen loches y Swyddfa Gartref ei hun a bu'n Gyfarwyddwr Cyswllt yn y Sefydliad ar gyfer Ymchwil Polisi Cyhoeddus. Rhoddwyd y teitl Academwraig Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ddiweddar i'r Athro Crawley i gydnabod ei hymchwil polisi dylanwadol.

Mae adroddiad heddiw gany JCHRar Hawliau Dynol plant mudol ar eu pen eu hunain yn y DU, yn nodi yr oedd oddeutu 1,200 o blant ar eu pen eu hunain yn chwilio am loches yn y DU yn 2012, ac roedd awdurdodau lleol yn gofalu am oddeutu 2,150 o blant mudol ar eu pen eu hunain. Mae'r plant hyn yn aml yn wynebu teithiau anodd, ac yn gallu bod yn dianc rhag trais, camdriniaeth ac ecsploetiaeth.  Pan maent yn cyrraedd yn y DU, yn aml mae'n rhaid iddynt ymgymryd â chyfweliadau dwys lle weithiau nad oes cyfleusterau cyfieithu ar gael. Mae'r adroddiad yn cyflwyno cyfres o argymhellion yn ymwneud ag asesu oed, gwneud penderfyniad am loches a gwarcheidwaeth, sydd i gyd yn feysydd y mae'r Athro Crawley wedi cyhoeddi ynddynt yn eang.

Meddai'r Athro Crawley: "Roeddwn i'n falch o gael fy mhenodi'n cynghorydd arbenigol i'r Pwyllgor a bod eu hadroddiad yn cynnwys argymhellion mewn perthynas â gwneud penderfyniad am loches, gweithdrefnau ar gyfer asesu oed a gwarcheidwaeth sy'n seiliedig yn rhannol ar fy ymchwil dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

"Mae'n hanfodol bod system mewnfudo'r DU yn mynd i'r afael â'r diwylliant o anghrediniaeth ynghylch oed plant mudol ar eu pen eu hunain, eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau mwy eglur am ddyfodol y plant, yn mabwysiadu proses lloches a mewnfudo sy'n canolbwyntio ar blant ac yn dechrau treialu system warcheidwaeth ar gyfer plant yng Nghymru a Lloegr sy'n debyg i'r hynny yr ydym wedi'i gwerthuso yn yr Alban yn ddiweddar.

"Os caiff yr argymhellion hyn a’r holl argymhellion eraill eu mabwysiadu, bydd yn dynodi ein hymrwymiad i hawliau'r holl blant yn y DU waeth beth yw eu statws mewnfudo."