Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Bydd Dr Igor Sazonov, ymchwilydd yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn cyd-arwain gweithdy rhwng Rwsia a'r Deyrnas Unedig, a ariennir gan y Cyngor Prydeinig, ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar ym Moscow fis Ebrill nesaf.
Cynhelir y gweithdy tridiau, a elwir yn “Mathematical and Computational Modelling in Cardiovascular Problems”, yn y Sefydliad Mathemateg Rifiadol ym Moscow, o 15 Ebrill tan 17 Ebrill, 2014, dan arweiniad Dr Igor Sazonov a Dr Yuri Vassilevski, Sefydliad Mathemateg Rifiadol, Academi Gwyddoniaeth Rwsia.
Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu o dan gynllun Cysylltu Ymchwilwyr y Cyngor Prydeinig, a'r gynulleidfa darged yw ymchwilwyr gyrfa gynnar sydd â llai na 10 mlynedd o brofiad ymchwil ers ennill eu PhD.
Mae arbenigedd Dr Igor Sazonov ym meysydd deinameg hylifau, efelychu llif y gwaed, generadu rhwyll, geoffiseg, ac acwsteg, a dywedodd: "Dwi'n falch o gael arwain y digwyddiad hwn ar y cyd â'm cydweithiwr Dr Vassilevski, o dan gynllun Cysylltu Ymchwilwyr y Cyngor Prydeinig.
Bydd y gweithdy yn dod ag ymchwilwyr gyrfa gynnar o'r Deyrnas Unedig a Rwsia at ei gilydd i asesu'r sefyllfa bresennol a'r cyfeiriad at y dyfodol ym maes modelu cardiofasgwlaidd mathemategol a rhifiadol.
"Bydd yn gyfle i beirianwyr, mathemategwyr, ac arbenigwyr meddygol o'r ddwy wlad rannu canlyniadau cyfredol a datblygiadau yn y maes hwn. Oherwydd natur amlddisgyblaethol y gweithdy, mae'n gyfle gwych i godi brwdfrydedd ymchwilwyr gyrfa gynnar a'u meithrin."
Bydd y gweithdy’n cynnwys cyfraniadau gan ymchwilwyr blaenllaw eraill yn y maes, gan gynnwys yr Athro Perumal Nithiarasu, o Brifysgol Abertawe; Yr Athro Xiaoyu Luo, o Brifysgol Glasgow; Yr Athro Sergey Mukhin, o Brifysgol Gwladwriaeth Moscow M V Lomonosov; a Dr Rubin R Aliev, Sefydliad Ffiseg a Thechnoleg Moscow.
- Dydd Gwener 6 Rhagfyr 2013 00.00 GMT
- Dydd Mercher 11 Medi 2019 11.31 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049