Academydd yn ennill Gwobr Teilyngdod Urdd Lifrai Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn gwobr fawreddog i gydnabod y gwaith a wnaed ganddi ym maes tocsicoleg enetig.

Shareen Doak at livery guild awardsDerbyniodd Dr Shareen Doak, o Goleg Meddygaeth y Brifysgol, Wobr Teilyngdod Urdd Lifrai Cymru mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Mae'r Wobr Teilyngdod yn cydnabod a dathlu Cymry sydd wedi dangos cyflawniad sylweddol ac wedi gwneud cyfraniad cyson i'r celfyddydau, i wyddoniaeth, neu i dechnoleg.

Mae Dr Doak yn Ddarllenydd, ac mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar docsicoleg enetig ac ar hynt canser y prostad. Mae'n gyd-arweinydd y grŵp ymchwil Tocsicoleg In Vitro, a sefydlodd hi raglenni ymchwil ar Nano(geno)tocsicoleg a Chanser y Prostad ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Dr Doak yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Ganolfan NanoIechyd hefyd.

Yn ddiweddar, cafodd Dr Doak ei phenodi'n Aelod Arbenigol o'r Pwyllgor ar Fwtagenedd Cemegau mewn Bwyd, Cynnyrch i Ddefnyddwyr, a'r Amgylchedd, sef pwyllgor pwysig sy'n rhoi cyngor i'r llywodraeth ar ddiogelwch cyfansoddion cemegol mewn bwydydd, cynnyrch i ddefnyddwyr, plaladdwyr, a chynnyrch fferyllol.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Doak: "Dwi'n hynod o ddiolchgar i Urdd Lifrai Cymru am roi'r Wobr Teilyngdod i mi, gan ei bod yn anrhydedd mawr eu bod yn tybio fy mod yn ei haeddu. Dwi'n arbennig o ddiolchgar, nid yn unig am dderbyn y wobr, ond hefyd i bawb sydd wedi cefnogi fy ngyrfa ymchwil, gan eu bod wedi chwarae rôl hanfodol wrth fy helpu i ennill y gydnabyddiaeth hon."