Admiral Group wedi'u cyhoeddi'n noddwyr ar fodiwl yr Ysgol Fusnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r arbenigwyr yswiriant a leolir yn Ne Cymru, Admiral Group, wedi'u cyhoeddi fel y noddwyr diweddaraf ar gyfer un o fodiwlau Gradd Meistr mewn Cyllid Ysgol Fusnes Prifysgol Abertawe.

Admiral logoMae'r modiwl - Deilliadau Ariannol a Rheoli Risg - yn gydran greiddiol o radd MSc mewn Cyllid hir sefydlog yr Ysgol, a hefyd ei gradd MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid newydd.

Daw'r nawdd ar ffurf gwobr o £300 am y myfyriwr â'r perfformiad gorau ar y modiwl a bydd cyfle gan yr enillydd hefyd i ymweld â'r cwmni.

Cyhoeddwyd y newyddion gan Dr Maggie Chen, cydlynydd y rhaglen MSc mewn Cyllid yn Abertawe, a ddywedodd:  "Rydw i wrth fy modd bod Admiral Group wedi cytuno noddi'r modiwl pwysig hwn. Bydd ei nawdd o fudd mawr i'n myfyrwyr ac yn rhoi cipolwg iddynt ar y byd busnes go iawn ac rydym yn ffyddiog y bydd hon yn bartneriaeth sy'n fuddiol i'r naill ochr.

Admiral yw'r ail gwmni i ychwanegu ei enw i Bortffolio Graddau Meistr yr Ysgol, gydag IMC London yn darparu nawdd ar gyfer dau fodiwl arall ar y radd MSc mewn Cyllid.

Sefydlwyd y berthynas gan y Cyn-fyfyriwr o Abertawe Anton Kossack, Rheolwr Dadansoddi Busnes yn Admiral Group, a fydd hefyd yn rhoi darlith gwadd i fyfyrwyr ar y modiwl, ac sy'n cydweddu'n dda ag arbenigedd ymchwil yr Ysgol Fusnes sy'n cynnwys yswiriant cyffredinol a rheoli risg.

Am ragor o wybodaeth am Admiral Group ewch i http://www.admiralgroup.co.uk/, ac am Ysgol Fusnes Prifysgol Abertawe ewch i http://www.swansea.ac.uk/business/.