Adran Fiowyddoniaeth Prifysgol Abertawe'n profi'n boblogaidd mewn digwyddiad TeenTech

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhaliwyd TeenTech yn Stadiwm Liberty ar 10fed Mai 2013. Roedd yn ddigwyddiad undydd bywiog wedi'i fwriadu i newid canfyddiadau ynghylch gyrfaoedd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau a'u hathrawon ac mae'n gweithredu fel catalydd i annog ymdrech gan ddiwydiant i ymgysylltu â phobl ifanc.

Gan weithio wrth ochr partneriaid rhanbarthol, mae TeenTech yn sicrhau bod ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu targedu, bod pob digwyddiad yn berthnasol i'r rhanbarth a bod dysgu ac ysbrydoliaeth yn parhau ar ôl y diwrnod mewn ffordd gydlynol. Mae TeenTech yn ddigwyddiad pwerus a chydweithredol unigryw, sy'n newid canfyddiadau.

Roedd gan yr adrannau Biowyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe ddau stondin yn y digwyddiad. 

Bu'r stondin Biowyddoniaeth yn hyrwyddo cynlluniau gradd Gwyddor Fiolegol, Geneteg a Biocemeg, gan ddefnyddio microbioleg ac imiwnoleg fel gyrfaoedd posib. Ymwelodd Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Ysgol Dewi Sant, Ysgol Gymunedol Cwm Tawe, Ysgol yr Esgob Gore, Ysgol Uwchradd Afon Taf, St John Beddoes, Ysgol Tregib, Ysgol Bryn Teg ac Ysgol Pentrehafod â'r stondin biowyddoniaeth.

Teentech STEM

Bu myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd i ddangos bod microbau o'n hamgylch i gyd ac yn enwedig ar ein croen, a bod ein croen yn ymddwyn fel ein llinell amddiffyn cyntaf. Gwnaeth gwirfoddolwr rhwbio 'Powdr Glitter Glow Bug' i'w dwylo a delweddu hwn dan olau du. Roedd hyn yn cynrychioli'r holl ficrobau naturiol sy'n bodoli ar y croen. Cawsant eu hannog yna i ysgwyd dwylo â'u ffrindiau ysgol i weld a fyddai'r powdr yn ymledu. Yn ogystal â'r powdr yn ymledu o un person i'r llall, tynnwyd sylw at y ffaith bod yr holl ficrobau ar y croen yn cael eu trosglwyddo hefyd. I amlygu hyn ymhellach roedd gennym blatiau agar gyda phrintiau dwylo arnynt a roddwyd mewn deorydd dros nos i ddangos y gwahanol fathau o ficro-organebau sy'n gallu bod yn bresennol ar ein croen

Gwnaethom amlygu ail linell yr amddiffyn yn y system imiwnedd, ac yn benodol celloedd gwyn y gwaed. Dangoswyd fideo byr un munud o hyd o waed yn llifo drwy'r system gylchredol i’r myfyrwyr.  Gwnaeth y fideo adnabod dair cydran o'r gwaed; celloedd coch y gwaed, platennau a chelloedd gwyn y gwaed. Anogwyd myfyrwyr i adnabod y celloedd hyn ac i esbonio eu rolau.

Yna, gwnaethom esbonio bod llawer o wahanol fathau o gelloedd gwyn y gwaed a gan ddefnyddio poster, dangosom iddynt fel yr oeddent yn edrych. Cafodd cyfranogwyr yna eu hannog i edrych ar sleid a baratowyd o flaen llaw i ddangos celloedd coch a chelloedd gwyn ac yna rhoddwyd her iddynt ddyfalu pa gell gwaed y gallant ei weld drwy edrych yn ôl ar y poster. Yn olaf, dangoswyd sleid a baratowyd o flaen llaw i'r myfyrwyr o gelloedd neutroffolis yn y broses o ffagosytosis MRSA.

Roedd adborth o'r diwrnod yn cynnwys:

 'Y stondin biowyddoniaeth oedd y stondin gorau y gwnaeth myfyriwr ymweld â hi drwy'r dydd' a'r 'Stondin oedd yn edrych mwyaf cŵl'.

Am ragor o wybodaeth am Adran Fiowyddoniaeth Prifysgol Abertawe, ewch i http://www.swansea.ac.uk/biosci