Annog Defnydd Cymdeithasol o’r Gymraeg yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi wnaeth Prifysgol Abertawe gynnig cyfle unigryw i bobl ifanc ddefnyddio’u Cymraeg yn gymdeithasol mewn digwyddiad arbennig yr wythnos hon.

ieithoedd modern

Trefnwyd dwy ysgol haf law yn llaw diolch i nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 4 a 5 Gorffennaf ar gampws y Brifysgol.

Bwriad y cwrs preswyl oedd annog disgyblion chweched dosbarth o bob cwr o Gymru i ymarfer eu sgiliau iaith a galluogi’r rhai ail iaith i glywed y Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a’u perswadio i astudio Cymraeg yn y Brifysgol.

Cafodd y criw wnaeth fynychu’r Ysgol Haf ieithoedd modern flas o ieithoedd eraill a chyfle i drin a thrafod ffilmiau tramor tra mi wnaeth y gweddill gymryd rhan mewn gweithdai cylchgronau a derbyn sesiwn ar straeon byrion gydag Ioan Kidd fel rhan o Ysgol Haf yr Adran Gymraeg.

Cyn cloi, cawsant oll air o gyngor ar sut i fynd ati i gyflwyno cais UCAS yn ogystal â chyflwyniad am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mi wnaeth rhai o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg presennol y Brifysgol gadw cwmni i’r disgyblion a chynnig cyngor iddynt ar fywyd ym Mhrifysgol Abertawe a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar draws y disgyblaethau.

Meddai Kayleigh Jones o Goleg Gŵyr: ‘‘Mi wnaeth y cwrs roi cyfle i mi ymarfer y Gymraeg gan mai Saesneg yw iaith y cartref. Mi wnes i fwynhau crwydro’r campws a chwrdd â siaradwyr ail iaith eraill. Mi roedd y gweithdy ar lunio datganiad personol o fudd gan fy mod yn y broses o gyflwyno cais ar gyfer y Brifysgol. Rwy’n gobeithio cael lle ym Mhrifysgol Abertawe i astudio Cymraeg!’’

Yn ôl Rhian Jones, Tiwtor gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: ‘‘Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth fynychu’r cwrs ac i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu nawdd. Roedd yn braf gweld cymaint o ddisgyblion yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ac rwy’n mawr obeithio y bydd yn datblygu i fod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr Prifysgol Abertawe.’’

Llun: Bethan Cook, Elin Jones, Sophie Squibbs, Charlotte Winstone (rhes flaen), Nathan Thomas, David James, Harriet Smith, Lauren O'Leary (rhes ôl) o Ysgol Cil-y-Coed.