Arddangosfa myfyrwyr yn dathlu'r rhaglen sgiliau treftadaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Abertawe'n cynnal arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, o Awst 6 i ddathlu llwyddiant rhaglen leoliad sgiliau treftadaeth sydd wedi mynd â myfyrwyr mor bell i ffwrdd â'r Aifft i ddadorchuddio beddrodau o'r 25-26ain breninliniau.

Mae'r Rhaglen Sgiliau Treftadaeth, a ariannir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac a arweinir gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH) ym Mhrifysgol Abertawe, wedi rhoi cyfres o gyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr ymchwil gydag ystod o sefydliadau treftadaeth rhyngwladol.

Mae myfyrwyr wedi ymgymryd â lleoliadau gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent.

Hefyd, cafodd sawl myfyriwr ymchwil gyfle i gwblhau interniaethau gyda Phrosiect Cadwraeth De Asasif yn yr Aifft.  Ffocws y prosiect, sy'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO 'Thebes Hynafol a'i Necropolis' a gyfarwyddir gan Dr Elene Pischikova, yw ailddarganfod tri beddrod teml o'r 25ain brenhinlin a'r 26ain brenhinlin yn yr Aifft.

Roedd y Rhaglen Sgiliau Treftadaeth hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, gymryd rhan mewn 'Rhaglen Prentis Treftadaeth' arloesol, wedi'i modelu ar gyfres deledu boblogaidd y BBC.

Copperworks ProjectDan gyfarwyddyd yr Athro Huw Bowen, roedd yn rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau cyfres o dasgau heriol yn gysylltiedig â phrosiect Cu@Abertawe, prosiect adfywio cyffrous a arweinir gan dreftadaeth ar safle hen Weithfeydd Copr Hafod-Morfa yng Nghwm Tawe Isaf.

Rhoddwyd briff i'r timoedd gan banel o arbenigwyr o'r byd academaidd, y byd treftadaeth, y byd busnes a'r byd twristiaeth; ac mae'r tîm buddugol wedi'u 'cyflogi' i ymgymryd â lleoliad gwaith gyda'r Athro Bowen ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Awst 2013.

Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnwys lluniau a dynnwyd gan y myfyrwyr tra'r oeddent ar leoliad, yn ogystal â disgrifiadau o'u gweithgareddau a'r sgiliau trosglwyddadwy a ddysgwyd trwy eu profiadau. Bydd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd am 2 wythnos o Awst 6 - 18 (10am - 5pm bob dydd), yn y prif gyntedd ac ardal dderbyn yr Amgueddfa.

Meddai Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH), Dr Elaine Canning, "Mae'r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n darparu cyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiannau ein hymchwilwyr ôl-raddedig. Diolch i gyllid gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, rydym wedi datblygu rhaglen dreftadaeth arloesol a llwyddiannus tu hwnt sydd wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr yn gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd a'u profiad o rwydweithio yn y sector treftadaeth ac maent yn dysgu sut i ymgysylltu'n effeithiol ag agendâu effaith a chyfnewid gwybodaeth." 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Rhaglen Sgiliau Treftadaeth a ariannir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, cysylltwch â Kate Spiller, Cydlynydd y Prosiect: k.spiller@abertawe.ac.uk neu ewch i