Beicwyr Prifysgol Abertawe’n croesi’r llinell yn gyntaf i ennill Her Seiclo

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae beicwyr Prifysgol Abertawe wedi rhagori ar y gystadleuaeth drwy groesi’r llinell yn gyntaf i ennill Her Seiclo Abertawe a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Bu cynrychiolwyr o’r 150 o staff a gymerodd ran yn yr her yn dathlu eu buddugoliaeth mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 18fed Hydref yn y Ffreutur yn Nhŷ Fulton.

Cycle Challenge1

Gwnaeth Philip McDonnell, o’r Her, gyflwyno’r beicwyr buddugol â thystysgrifau, cacen seiclo'r enillwyr a rhoddwyd cacennau bach i’r holl feicwyr. Gwnaeth yr Is-ganghellor yr Athro Richard B Davies, sydd ei hun yn feiciwr brwd, torri’r gacen i ddathlu’r achlysur.

Cycle Challenge2

Gwnaeth feicwyr Prifysgol Abertawe guro’r gystadleuaeth a ddaeth o Yswiriant Admiral, HSBC Direct, Amazon a NWIS yn y categori 500+ staff. Gwnaeth staff o’r Coleg Gwyddoniaeth, y Coleg Meddygaeth, y Coleg Peirianneg a'r Adran Dderbyn i gyd gystadlu mewn categorïau ar gyfer nifer y staff sydd yn yr adran a pherfformio’n dda.

Cycle Challenge3

Ynghyd â seiclo mae Prifysgol Abertawe’n cydnabod bod ganddi rôl bwysig i chwarae wrth hyrwyddo cynaliadwyedd a mabwysiadu arferion cynaliadwyedd ac mae’n arwain y ffordd gyda nifer o fentrau sydd wedi’u cyflwyno ar y campws. Er enghraifft, y Brifysgol oedd y cyntaf yng Nghymru i fod yn brifysgol Masnach Deg ac i weithredu Effaith Werdd, ac mae wedi ennill Gradd Dosbarth Cyntaf yn Nhabl Cynghrair Werdd y Guardian. Mae’r Brifysgol yn ddiweddar wedi ennill gwobr Platinwm EcoCampus a’r safon ryngwladol ISO 14001 am ei system rheoli amgylcheddol ac mae wedi’i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Gynau Gwyrdd 2013 yn y categori Cyfleusterau a Gwasanaethau.

Mae meysydd eraill y mae’r Brifysgol wedi’u datblygu’n cynnwys:

  • Camau Gweithredu’r Brifysgol tuag at Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)
  • Polisi Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe
  • Masnach Deg ym Mhrifysgol Abertawe
  • Canllaw Gwyrdd – Gwybodaeth am gynaliadwyedd i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr
  • Cyllid Dyfodol Disglair – Cyllid ar gyfer prosiectau cynaliadwyedd myfyrwyr
  • Rheoli Carbon – Camau Prifysgol Abertawe i ymdrin â lleihau carbon
  • Beiciau’r Bae

 

Llun 1: Tystysgrif enillwyr a chacen enillwyr Her Seiclo Abertawe.

Llun 2: Yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe’n derbyn tystysgrif yr enillwyr gan Philip McDonnell, Her Seiclo Abertawe.

Llun 3: Philip McDonnell yn dal y gacen i’r Is-ganghellor ei thorri.