Caffe Gwyddoniaeth Mis Medi: ‘Cydymddygiad pobl ac Anifeiliaid Eraill’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n gyfle i bawb gael gwybod mwy am feysydd newydd, cyffrous, a chyfredol yn y byd gwyddoniaeth mewn modd anffurfiol a difyr.

Teitl: ‘Cydymddygiad pobl ac Anifeiliaid Eraill’

Siaradwr:  Dr Andrew King (Prifysgol Abertawe)

Dyddiad:  Dydd Mercher 25 Medi

Amser:  7:30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb

Yn ei ddarlith, bydd Dr King yn canolbwyntio ar gasgliadau o anifeiliaid, gan gynnwys heidiau, heigiau, preiddiau, ac yn y blaen, a bydd yn dangos un o fanteision mawr bod yn rhan o dyrfa, gyda chymorth y gynulleidfa, mewn arbrawf cyhoeddus yn y fan.

Mae Dr King yn aelod o'r Grŵp Cymdeithasoldeb, Cymysgrywiaeth, Trefniadaeth, ac Arweinyddiaeth yn Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe. Mae'r grŵp yn cynnal ymchwil yn y labordy ac yn y maes, ac yn astudio achosion, patrymau, a chanlyniadau'r ymddygiad rhyfedd cydlynedig a welwn ar draws amryw rywogaethau, ac mewn cyd-destunau gwahanol.

Bydd Dr King yn disgrifio gwaith diweddar ar heidiau o adar, heigiau o bysgod, grwpiau o fabwniaid, a thyrfaoedd o bobl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.shoalgroup.org/ neu cewch ddilyn trydariadau'r Grŵp ar @SHOALgroup

Manylion cyswllt: http://swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/