CSAR yn croesawu gwesteion Cangen Polisi Pysgodfeydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwnaeth y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR) ym Mhrifysgol Abertawe gynnal ymweliad yn ddiweddar gan David Tripp, Pennaeth Strategaeth Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru a Jeremy Frost, Pennaeth Pysgodfeydd Mewndirol a Rhynglanw.

CSAR Fisheries visit1Ymwelodd Mr Tripp a Mr Frost â CSAR i gael gwybod mwy am waith y Ganolfan, yn enwedig o ran datblygiad ymchwil a thechnoleg acwafeithrin yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Bwriad hyn oedd hysbysu adolygiad llywodraethol o bysgodfeydd ac acwafeithrin yng Nghymru, ac i baratoi ar gyfer Fforwm Dyframaeth y DU 2013 y mae'r Gangen Polisi Pysgodfeydd yn ei gynnal yng Nghaerdydd o 21-22 Mawrth.

Sefydlwyd CSAR yn 2005, i ddatblygu technolegau cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd dyfrol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Ers hynny mae wedi tyfu'n gyflym ac wedi amrywio ei hymchwil i gynnwys cwestiynau sylfaenol am ecoleg a ffisioleg ddyfrol, ynghyd â gwaith datblygu technoleg gymhwysol.

Mae'r Ganolfan, a leolir yng Ngholeg Gwyddoniaeth y Brifysgol, yn gartref i swît o labordai amgylchedd a reolir lle y mae amrywiaeth o organebau dŵr ffres a dŵr croyw megis pysgod, algae, pysgod cregyn ac infertebratau eraill yn cael eu tyfu dan amgylchiadau optimwm ac yn cael eu harchwilio gyda chyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer samplu maes a gwaith dadansoddi yn y labordy.

CSAR Fisheries visit 3Mae'r Ganolfan Ymchwil yn gweithredu ar ran gweithwyr acwafeithrin a physgotwyr masnachol, darparwyr technoleg a chynghorau ymchwil.  Mae'r Ganolfan hefyd yn cynghori sefydliadau llywodraethol, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Meddai Cyfarwyddwr CSAR, Dr Robin Shields, a fydd yn siarad am waith y ganolfan yn Fforwm Acwafeithrin y DU 2013 ym mis Mawrth: "Daeth Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, i ymweld â'n cyfleusterau yr hydref diwethaf er mwyn dod o hyd i ffeithiau ac ar yr achlysur hwn roedd yn bleser i ni gyflwyno Mr Frost a Mr Tripp i'n gweithgareddau'n cefnogi pysgodfeydd ac acwafeithrin yng Nghymru ac i'n cydweithrediadau ymchwil rhyngwladol yn y maes hwn."

Mae themâu ymchwil presennol CSAR yn cynnwys:

 

  • Datblygu technolegau acwafeithrin arloesol, gan gynnwys porthiant a thechnolegau trin dŵr newydd;
  • Deall a lleihau effaith amgylcheddol peirianneg forol ar bysgodfeydd masnachol, adar y môr a mamolion morol;
  • Gwarchod rhywogaethau morol sydd mewn peryg, gan ymgorffori dulliau geneteg foleciwlaidd modern;
  • Tyfu a defnyddio algae (gwymon a microalgae) fel dull o gael gwared ar lygryddion a hefyd fel ffynhonnell biomas ar gyfer bwyd, porthiant a biodanwyddau;
  • Modelu prosesau biolegol yn y môr a sut y mae'r rhain wedi'u heffeithio gan newid hinsawdd, gan gynnwys effaith ar bysgodfeydd masnachol;
  • Deall effaith gweithgareddau dynol ar ymddygiad a phatrymau mudo anifeiliaid morol allweddol.

 

Am ragor o wybodaeth ar CSAR ewch i www.aquaculturewales.com.