Cyfle i Fyfyrwyr Abertawe Serennu mewn Cystadleuaeth o Fri

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi’u dewis i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol o bwys.

Bydd pedwar myfyriwr rhyngwladol yn dangos eu doniau mewn pencampwriaeth ryngwladol yn Doha, Qatar. Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan Sefydliad Datblygu MICE QATAR, menter ar y cyd â Sefydliad Qatar.

Qatar

Eleni yw’r tro cyntaf i Brifysgol o’r DU gael ei gwahodd i fynychu’r digwyddiad blynyddol a bydd myfyrwyr o bedwar ban byd yn brwydro yn erbyn ei gilydd rhwng 21 a 24 Ebrill.

Dros gyfnod o ddeuddydd, bydd pump rownd yn pennu’r goreuon yn eu plith. Bydd y rheiny wedyn yn cystadlu yn y rownd gyn derfynol a bydd enillwyr y rowndiau hynny yn mynd ben ben a’i gilydd yn y rownd derfynol i gloi’r cyfan.

Bydd y tri thîm buddugol yn derbyn tlysau a’r deg siaradwr gorau yn cael medalau am eu hymdrechion arbennig yn ystod y gystadleuaeth.

Mae’r criw wedi bod wrthi’n ddyfal yn paratoi ar gyfer yr achlysur dros y misoedd diwethaf. Gwnaethant gynnal sawl sesiwn ymarfer ym Mosg y campws a derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr yn y maes.

Meddai Layla Sabeel, myfyrwraig Peirianneg yn ei hail flwyddyn: ‘‘Roeddwn yn falch iawn o gael fy newis i gynrychioli Prifysgol Abertawe mewn cystadleuaeth ryngwladol o bwys. Bydd heb os yn rhoi cyfle i ni fynegi barn a dod i gysylltiad gyda myfyrwyr rhyngwladol eraill. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y sialens a gobeithio y gwnawn ni gipio’r wobr gyntaf!’’

Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe sy’n gyfrifol am faterion rhyngwladol: ‘‘Rydym yn falch iawn bod rhai o’n myfyrwyr wedi’u dewis i gymryd rhan mewn digwyddiad mor fawreddog. Bydd y gystadleuaeth yn eu paratoi ar gyfer bywyd wedi’r Brifysgol ac yn eu darparu â sawl sgil werthfawr. Hoffwn ddymuno’r gorau i’n myfyrwyr ac er ein bod yn mawr obeithio y daw llwyddiant i’w rhan, maent yn siŵr o fwynhau’r profiad beth bynnag fo’r canlyniad.’’

 Llun (Chwith i'r Dde): Abdulkarim Alotaibi, Layla Sabeel, Rahaf Damerli, Safwat Rihawi