Cyfres Darlithoedd Cymunedol AABO: The Beauty of Ugliness

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith nesaf yn y gyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau 18 Ebrill.

Teitl: The Beauty of Ugliness

Siaradwr: Sarah Hopkins

Dyddiad: Iau 18 Ebrill

Amser: 3.45pm - 5.30pm

Lleoliad: Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN

Mynediad: Mae mynediad am ddim. Mae ychydig o lefydd ar ôl ar gyfer y ddarlith hon, ond gan fod nifer y seddau'n gyfyngedig, mae angen archebu lle ymlaen llaw, os gwelwch yn dda, er mwyn peidio â chael eich siomi (manylion cyswllt islaw).

Crynodeb o'r ddarlith: Yn y ddarlith hon, bydd Sarah Hopkins yn trafod ei gwaith yn arlunydd ac yn arlunydd printiau. Mae Sarah wedi gweithio fel arlunydd ers 1987, ac wedi dangos ei gwaith o gwmpas y DU.

Mae'n creu gwaith celf pwrpasol i ofodau mewnol a chyhoeddus, ac mae hefyd yn gweithio ar brosiectau celf cydweithredol gyda grwpiau cymunedol, ac yn y sectorau addysg a gofal iechyd. 

Yn 2012, prynodd Palas San Steffan rai o'i darnau yn delweddu agweddau ar ddiwylliant De Cymru ar gyfer Casgliad Celf y Senedd.  Bellach, maent i'w gweld yn Nhŷ Millbank.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi datblygu a rheoli Prosiect Printiau'r Ŵyl Diwylliannau Mwslimaidd a drefnwyd gan Weithdy Print Abertawe.  Bu'n gyd-guradwr arddangosfa Arlunwyr Print Cyfoes Cymru a aeth ar daith o gwmpas Pacistan yn 2007.      

Yn fwy diweddar, hi oedd Arlunydd Gwobr Sefydliad Josef Herman yn 2008, a bu'n gweithio gyda phlant ysgolion cynradd ar draws pedair sir yn ne Cymru. 

Ar hyn o bryd, mae'n Bennaeth Cwricwlwm ar gyfer y Diwydiannu Creadigol, Chwaraeon, a Gwaith Sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.sarah-hopkins.co.uk/

I archebu lle, neu am ragor o wybodaeth, galwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd y lleoliad ei hun yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace