Cynulliad Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Cydnabod Academyddion Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ei ail Gynulliad Blynyddol yn Aberystwyth ar 26 Chwefror, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydnabod myfyrwyr ymchwil Prifysgol Abertawe sydd wedi sicrhau doethuriaethau o dan nawdd y Coleg (neu ei ragflaenydd Y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg).

Bydd Dr Elain Price, sydd bellach yn ddarlithydd Cyfryngau a Dr Kate Evans, Darlithydd yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe yn cael eu cydnabod yn ogystal â Dr Rachel Davies, a dderbyniodd ei Doethuriaeth yn y Gyfraith o Brifysgol Abertawe y llynedd.

Ers 2005, mae dros 60 o fyfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau ymchwil fel rhan o gynllun a sefydlwyd i symbylu datblygiad cenhedlaeth newydd o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg mewn amrediad eang o feysydd academaidd.  Erbyn hyn mae 14 o ddeiliaid yr ysgoloriaethau ymchwil hynny ymysg y 54 sydd wedi eu penodi yn ddarlithwyr yn y prifysgolion gyda chefnogaeth Cynllun Staffio Academaidd y Coleg.  Mae dros 40 o fyfyrwyr ymchwil yn derbyn cefnogaeth drwy’r Cynllun ar hyn o bryd ac, yn gynharach y mis hwn, cytunodd Bwrdd Academaidd y Coleg ar drefniadau newydd ar gyfer parhad y cynllun yn y dyfodol.

Yn ogystal â chydnabod myfyrwyr ymchwil, bydd y Coleg yn urddo Cymrodyr Er Anrhydedd. Cynhaliwyd y Cynulliad cyntaf yn Abertawe y llynedd pan urddwyd Dr Meredydd Evans, yr Athro Hazel Walford Davies a’r Athro M. Wynn Thomas o Brifysgol Abertawe yn Gymrodyr Er Anrhydedd o’r Coleg. Y tri a anrhydeddir eleni yw’r Athro Robin Williams, yr Athro Ioan Williams a’r Dr John Davies.