Darlith Dolen - Arsyllfa Ofod Herschel : diwedd y dechrau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dr Chris North, o Brifysgol Caerdydd, a chyd-gyflwynydd rhaglen y BBC The Sky at Night yn cyflwyno Darlith Dolen a drefnwyd gan Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe a Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain.

Dr Chris NorthTeitl: Arsyllfa Ofod Herschel:diwedd y dechrau

Siaradwr: Dr Chris North

Dyddiad: Nos Iau 7 Tachwedd 2013

Amser: 7pm – 8.30 pm

Lleoliad: Theatr Ddarlithio Grove, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb

Lansiwyd Arsyllfa Ofod Herschel ym mis Mai 2009 a bu’n arsyllu ar y Bydysawd tan fis Ebrill 2013. 

Er bod cyfnod gweithredol y prosiect ar ben, dim ond y dechrau yw hyn, wrth i’r gwaith o ddadansoddi’r data fynd yn ei flaen a chanlyniadau’n pentyrru ar raddfa glodwiw. Bydd Dr North yn amlinellu’r prosiect a rhai o’r uchafbwyntiau gwyddonol hyd yn hyn.

Darlith flynyddol a drefnir gan gangen De Cymru o Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain yw Darlith Dolen,  gyda’r bwriad o hybu’r cyswllt rhwng gwyddoniaeth, gwyddonwyr a’r cyhoedd.