Dathliad dwbl i efeilliaid sy'n graddio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'n ddathliad dwbl i dri set o efeilliaid sydd wedi graddio o Brifysgol Abertawe yn y Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo a gynhelir yn Neuadd Brangwyn Dinas a Sir Abertawe, Neuadd y Dref.

Luciano D'Acri Davies twins graduateEnillodd Luciano D'Arci Davies a'i efell Sabrina, sy'n ddwy ar hugain oed o Landysul yng Ngheredigion, graddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, gyda'u rhieni balch yn eu gwylio ar eu diwrnodau graddio.  Dyfarnwyd BSc mewn Cyfrifiadureg i Luciano ac enillodd Sabrina radd LLB.

 Sabrina D'Acri Davies twin graduate

Mae Sabrina eisoes wedi dod o hyd i swydd Baragyfreithiol gyda chwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd tra y bydd Luciano yn dechrau gweithio fel cynghorydd ceisiadau gyda'r cwmni TG Capgemini yng nghanol Llundain.

Roedd yr efeilliaid yn awyddus i astudio yn Abertawe oherwydd ei lleoliad ar lan y môr a'r cyrsiau a gynigwyd.  Fodd bynnag, ymhlith eu huchafbwyntiau yn y brifysgol yw'r ffrindiau y maent wedi cwrdd â nhw.

 

Meddai Luciano: "Y tair blynedd ddiwethaf bu'r gorau yn fy mywyd hyd yma, ni fyddaf byth yn anghofio'r bobl yr wyf wedi cwrdd â nhw tra'n astudio yn Abertawe. Maen nhw, yn ogystal â'r lle, wedi gwneud fy mhrofiad yn y brifysgol yn wych."

 Al and Kate Fish - graduate twins

Enillodd Al a Kate Fish, gefeilliaid o Gaerdydd sy'n un ar hugain oed, raddau BSc Ail Ddosbarth Uwch mewn Seicoleg. Derbyniasant eu dyfarniadau gyda'u rhieni balch, eu chwaer iau a'u cariadon yn eu gwylio.

Roedd yr efeilliaid yn awyddus i astudio yn Abertawe oherwydd ei lleoliad, a hefyd y cyrsiau a'r bwrsariaethau a gynigwyd. Fodd bynnag, ymhlith eu huchafbwyntiau yn y brifysgol yw'r ffrindiau y gwnaethant gwrdd â nhw yn ystod eu hamser yn trefnu digwyddiadau yn Undeb y Myfyrwyr.

 

Meddai Kate: "Mae'r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn wych. Rydyn ni wedi cael amser gwych yn astudio ac yn cymdeithasu ac mae ein profiad yn y brifysgol wedi bod yn fythgofiadwy."

Jesvin and Jithin -twins graduateMae Jithin a Jesvin Varghese Chalikkara, gefeilliaid dwy ar hugain oed o Basingstoke, wedi ennill graddau MEng Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifiadureg, a bu eu rhieni balch yn eu gwylio'n derbyn eu dyfarniadau.

Daeth Jithin a Jesvin ill dwy i Brifysgol Abertawe oherwydd ansawdd y cwrs Cyfrifiadureg.  Meddai Jesvin: "Daethom i Abertawe oherwydd bod ganddi gwrs Cyfrifiadureg da iawn ac roedd yn cynnig cwrs MEng pedair blynedd. Dim ond ychydig o Brifysgolion a oedd yn gwneud hynny ar y pryd."

Mae'r efeilliaid, sydd o India yn wreiddiol, bellach yn canolbwyntio ar ddod o hyd i swyddi ac yn gobeithio dod o hyd i swyddi ym maes rhaglennu.