Dwy Ddinas, Dwy Brifysgol, Un Enillydd .... Cyffro'r Farsity!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r chwaraewyr yn barod, mae'r offer yn lân, ac mae'r tymheredd yn codi.

Varsity Group 2013

Mae timoedd y ddwy brifysgol yn mynd benben mewn dros 25 o wahanol chwaraeon i benderfynu pwy fydd yn ennill Tarian y Prifysgolion yn 2013. Mae'r frwydr flynyddol yn cyrraedd ei hanterth yn Stadiwm y Mileniwm nos Fercher wrth i'r timoedd rygbi chwarae'r gêm sy'n ganolog i'r cyfan. Aeth dros 15,500 i weld gêm y llynedd.

 

 

 

Varsity Fencing 2013

 

Cynhwysir chwaraeon eraill yn y gemau hefyd, gan gynnwys hoci, sboncen, badminton, lacrós, rhwyfo, golff, pêl-rwyd, pêl-foli, cleddyfaeth, ac ystod o chwaraeon eraill gan gynnwys crefft ymladd a ffrisbi eithafol. Mae'n ddigwyddiad codi arian, ac aiff yr elw at nifer o achosion da.

 

 

 

 

Chwaraewyd Gêm Sefydlu Gêm Prifysgolion Cymru ym 1997 ym Mhrifddinas Cymru, yng nghartref Clwb Rygbi Caerdydd, sef Parc yr Arfau. Chwaraewyd y gêm rhwng dwy brifysgol fwyaf Cymru, sef Caerdydd ac Abertawe, gan fabwysiadu model llwyddiannus y "Farsity".  Aeth yr holl elw o'r digwyddiad i Oxfam.

Yn y blynyddoedd cynnar, chwaraewyd y gêm bob yn ail flwyddyn ym Mharc yr Arfau ac ym Mharc San Helen, cartref Clwb Rygbi Abertawe. Yn 2003, ac wedyn tan 2007, chwaraewyd y gêm ar dir niwtral, ar Gae'r Bragdy ym Mhenybont-ar-Ogwr.

Yn hanesyddol, Abertawe yw'r ffefryn arferol ar ôl ennill 10 gêm hyd yma, gan golli pum gwaith.  Roedd y sgôr yn gyfartal yn y gêm arall.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod mewn sefyllfa yn rheolaidd i ddewis o gronfa ddofn o chwaraewyr talentog iawn - chwaraewyr megis Alun Wyn Jones, Ritchie Pugh a Dwayne Peel.  Maent i gyd yn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, ac roeddent i gyd yn chwarae yn nhîm Farsity Abertawe. Yn 2007, roedd gan Abertawe 11 o chwaraewyr rhyngwladol FIRA yn y tîm, gan ennill y gêm ym Mharc yr Arfau.

Mae sawl myfyriwr o Abertawe a Chaerdydd wedi symud ymlaen i gynrychioli, ac ennill contractau gyda, chlybiau is-broffesiynol a phroffesiynol yn sgil perfformiadau gwych yng Ngêm Farsity Cymru. Yn 2007, cytunodd y ddwy brifysgol i roi Cap i bob myfyriwr sy'n chwarae yng Ngêm y Farsity. Mae hyn wedi ychwanegu at y cystadlu brwd mewn un o gemau mwyaf cystadleuol y flwyddyn i'r ddau dîm.

Dywedodd Paul Thorburn, graddedig o Abertawe a Chymrawd Anrhydeddus: "Chwaraeais i dros Brifysgol Abertawe yn y gêm gyfatebol yn gynnar yn y 1980au.  Bryd hynny, roeddem ni'n lwcus i gael un dyn a'i gi'n ein gwylio o'r llinell ystlys. Mae'n ddigwyddiad enfawr bellach, gyda thros 15,500 a hanner yn dod i'r gêm.  Mae'n achlysur gwych, gyda'r awyrgylch fel math o garnifal."  

Dywedodd Joe Lydon, Pennaeth Rygbi Undeb Rygbi Cymru: "Cyfuno proffesiynoliaeth chwaraeon â sefydliadau academaidd - dyna'r ffordd ymlaen. Mae mwy a mwy o chwaraewyr yn pontio'r bwlch rhwng rygbi proffesiynol a pharatoi at yrfa ar ôl rhoi'r gorau iddo. Mae mwy o chwaraewyr Farsity'n mynd i rygbi rhanbarthol a phroffesiynol."

Cynhelir gêm eleni - y 17eg - ar 24 Ebrill 2013.

Varsity Boxing 2013

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, canlyniadau'r gorffennol, a gornest eleni, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/varsity neu  http://www.welshvarsity.com .  

Ceir gwybodaeth am Glwb Rygbi Prifysgol Abertawe yn: http://www.pitchero.com/clubs/swanseauniversityrfc