Gwobr Fawreddog i Wyddonydd o Fri

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr Gronfa Lyell gan Gymdeithas Ddaearegol Llundain am ei gwaith ymchwil nodedig dros y deng mlynedd diwethaf.

‎‎

SiwanDavies

Byd‎d yr Athro Davies o Adran Ddaearyddiaeth, Coleg Gwyddoniaeth y Brifysgol yn derbyn y wobr yn ogystal â siec o £500 yn ystod Diwrnod Llywydd y Gymdeithas ar 5 Mehefin.‌

Trefnir y digwyddiad blynyddol gan y Gymdeithas er mwyn llongyfarch yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo arbennig cyn cynnal cyflwyniadau a’r cyfarfod blynyddol.

Prif ffocws ymchwil yr Athro Davies yw ceisio darganfod pam bod newid mor ddramatig wedi bod yn yr hinsawdd dros 100,000 o flynyddoedd (hyd at 16°c o fewn degawdau).

Mae hi’n archwilio’r darnau o ludw folcanig sydd wedi’u dal mewn haenau iâ er mwyn dehongli ymateb y môr a’r atmosffer yn ystod y digwyddiadau newid hinsawdd cyflym yma er mwyn dod o hyd i’r hyn allai fod yn gyfrifol am achosi’r newid.

Mae hi newydd gwblhau prosiect tair blynedd a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol wnaeth ei galluogi i astudio creiddiau iâ ymhell o dan wyneb haen iâ yr Ynys Las.

O ganlyniad, cafodd ei gwaith ei gyhoeddi yn Nature, sef cyfnodolyn gwyddonol o bwys ac fe’i gwahoddwyd i gyflwyno darlith mewn cynhadledd ym Moston fis diwethaf.

Ar hyn o bryd, mae hi’n arwain prosiect ymchwil uchelgeisiol gwerth £1.2 miliwn o’r enw TRACE diolch i un o grantiau cychwynnol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a roddir i academyddion addawol yn Ewrop sydd â’r potensial o fod yn arweinwyr ymchwil o’r radd flaenaf. 

Meddai’r Athro Siwan Davies: ‘‘Rwyf wrth fy modd o dderbyn y wobr hon. Mae’n anrhydedd o’r mwyaf ac rwy’n falch o dderbyn cydnabyddiaeth ond hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â fy nghydweithwyr rhyngwladol am eu cyfraniadau gwerthfawr.’’