Gwyddonwyr Prifysgol Abertawe yn Ceisio Iacháu Osteoarthritis

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Ilyas Khan a Dr Lewis Francis o Brifysgol Abertawe wrthi’n ceisio darganfod sut y gellir iacháu osteoarthritis.

Dengys y gwaith ymchwil gan y darlithwyr yng Nghanolfan Nanoiechyd y Brifysgol ac a noddir gan Ymchwil Arthritis y DU fod modd stopio neu hyd yn oed gwrthdroi’r clefyd.

Pan mae’r cartilag mewn pen-glin neu glun yn osteoarthritic, mae’n fwy meddal sy’n golygu nad yw’n gallu cario’r un pwysau ac fe all hyn arwain at golli cartilag yn sylweddol.

Yn ôl y gwaith ymchwil, gall y cyflwr gael ei wrthdroi gan ddefnyddio cyfuniad penodol o ffactorau twf sy’n cynorthwyo’r cartilag i gryfhau a thyfu unwaith eto.

Mae mwy o bobl ifanc bellach yn dioddef o’r cyflwr ac angen triniaeth oherwydd bod mwy mwy ohonynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon eithafol.

Nod eu hymchwil yw cywiro ac adfywio cymalau pobl ifanc sydd wedi’u difrodi er mwyn osgoi’r posibilrwydd o orfod cael triniaeth pan yn hŷn.

Diolch i’r canlyniadau cadarnhaol, mae’r tîm wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Ymchwil Orthopedig y DU i barhau â’r gwaith a rhoi cynnig ar y driniaeth wrth ddefnyddio cartilag dynol.

Meddai Dr Ilyas Khan, Darlithydd yng Nghanolfan Nanoiechyd y Brifysgol: ‘‘Cawsom ein synnu bod ein dulliau wedi llwyddo i gryfhau ac adfywio’r cartilage cymaint. Mae’r darganfyddiadau cyffrous hyn yn berthnasol i bawb gan y bydd canran uchel ohonom yn debygol o ddioddef o’r cyflwr rhywben mewn bywyd. Hoffwn ddiolch i Ymchwil Arthritis y DU ac Ymchwil Orthopedig y DU am eu cefnogaeth fydd yn ein galluogi i geisio darganfod dull o iacháu’r cyflwr yn y dyfodol agos. Rwy’n falch fod yr ymchwil yn cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe ac rwy’n gobeithio y bydd modd i bobl yr ardal elwa o unrhyw driniaethau wnaiff ddeillio o’n hymchwil.’’