Gŵyl Ymchwil: Adeiladau'r Dyfodol Darparu ynni adnewyddadwy glân o'r amgylchedd adeiledig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Pob ychydig fisoedd, ceir newyddion am brosiectau adeiladu hynod, 'oes y gofod' yn rhywle ar draws y byd: Tyrau sy'n ymestyn i'r awyr, nendyrau wedi'u gwneud o wydr neu westeiau wedi'u hadeiladu o dan y môr.

Dr Dave WorsleyMae'r ddarlith gyhoeddus hon, sy'n rhad ac am ddim ac sy'n agored i bawb, yn gyfle arall i weld yr Athro Dave Worsley yn traddodi ei gyflwyniad a werthwyd yr holl docynnau amdano yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham ynglŷn â'r hyn sy’n gallu digwydd pan yr ydym yn trosi ein hadeiladau'n orsafoedd pŵer bychain sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau'r holl ynni sydd ei angen arnynt.

‎Teitl: Future Buildings: Delivering clean renewable energy from the built environment

Siaradwr: Yr Athro Dave Worsley, Cyfarwyddwr Ymchwil, SPECIFIC (Y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol).

Dyddiad: Dydd Llun 25 Chwefror

Amser: 6.30 pm – 8pm

Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb.

Darganfyddwch ddyfodol pensaernïaeth a chodi adeiladau gyda'r Athro Worsley a'i dîm, sy'n datblygu defnyddiau a fydd yn newid y maes ac yn ein gorfodi i feddwl mewn ffyrdd gwahanol iawn am gynaeafu ynni solar er mwyn lleihau allyriadau carbon, creu swyddi a, nid leiaf, er mwyn helpu i fynd i'r afael â phryderon byd-eang ynglŷn â diogelwch ein cyflenwadau ynni yn y dyfodol. 

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Ymchwil Prifysgol Abertawe - arddangosiad wythnos o hyd o ragoriaeth ymchwil a gefnogir gan Bontio'r Bylchau, a gynhelir o ddydd Llun, Chwefror 25 tan ddydd Gwener, Mawrth 1, 2013.