Gŵyl Ymchwil y Brifysgol yn dathlu rhagoriaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir arddangosfa o ragoriaeth ymchwil Prifysgol Abertawe am wythnos gyfan, yn cychwyn ddydd Llun, 25 Chwefror.

Ceir rhaglen eang ac ysgogol o ddarlithoedd cyhoeddus, seminarau, arddangosfeydd, a digwyddiadau fydd yn hyrwyddo'r goreuon o ddatblygiadau ymchwil, o bwys rhyngwladol, a wneir ym Mhrifysgol Abertawe. Mae digwyddiadau cyhoeddus yr Ŵyl yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb - myfyrwyr israddedig, myfyrwyr ôl-raddedig, staff academaidd a staff cymorth y Brifysgol, ymwelwyr, gwesteion, ac aelodau'r cyhoedd sydd â diddordeb.

Bydd yr Athro Andrew Blake, Gwyddonydd o Fri â Microsoft a Chyfarwyddwr Labordy, Microsoft Research Caergrawnt yn agor yr ŵyl gyda darlith gyhoeddus, Adeiladu Peiriant sy’n Gweld fore Llun, 25 Chwefror.

Bydd darlith yr Athro Blake yn cynnwys lluniau ac arddangosiadau o beiriannau a all weld - er na all hyn gymharu o gwbl â gallu anifeiliaid neu bobl i weld - sy'n cyfrannu i'n dealltwriaeth o ddeallusrwydd.

Mae'r systemau hyn yn cynnwys, er enghraifft: camerâu a all synhwyro wynebau; ceir a all yrru eu hunain; systemau a all adnabod hyd at 1000 o wahanol wrthrychau; a'r camera Kinect sy’n adnabod ystumiau - a ddatblygwyd yn rhannol yn labordy'r Athro Blake yng Nghaergrawnt.

Mae uchelbwyntiau eraill yr ŵyl yn cynnwys cyfle ychwanegol i glywed yr Athro Dave Worsley, Cyfarwyddwr Ymchwil, SPECIFIC (Canolfan Peirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Arloesedd ym maes Caenau Swyddogaethol) draddodi ei gyflwyniad hynod boblogaidd i Ŵyl Gwyddoniaeth Cheltenham, ar Adeiladau’r Dyfodol: Cyflawni ynni glân ac adnewyddadwy o’r amgylchedd adeiledig, nos Lun, 25 Chwefror.

Mae'r Athro Worsley a'i dîm yn datblygu deunyddiau fydd yn troi'n hadeiladau'n orsafoedd ynni bach, gan ein gorfodi i feddwl mewn ffordd wahanol iawn am gynaeafu ynni solar er mwyn lleihau allyriadau carbon, creu swyddi, ac yn bwysicaf oll, datrys pryderon byd eang ynghylch diogelwch ein cyflenwadau ynni yn y dyfodol.

Mae eu hymchwil yn cael effaith uniongyrchol ar sut y caiff adeiladau'r dyfodol eu codi, a bydd â dylanwad uniongyrchol ar y gymdeithas fodern a chymdeithas y dyfodol.

Traddodir darlith gyhoeddus arall, Anniogel mewn unrhyw wely, gan yr Athro Harold Thimbleby, Cyfarwyddwr Labordy Future Interaction Technology yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe, a’r Athro Ross Koppel, o Adran Cymdeithaseg ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Pennsylvania, ddydd Mawrth 26 Chwefror.

Cydnabyddir bod Athro Koppel yn ysgolhaig blaenllaw yn ei faes, a bydd yn cyflwyno enghreifftiau o TG mewn Gofal Iechyd, gan ystyried paham nad yw cynifer ohonynt yn llwyddo i ymateb i anghenion clinigwyr a chleifion. Bydd yr Athro Thimbleby, arbenigwr blaenllaw ym maes Rhyngweithio rhwng Cyfrifiaduron a Phobl, yn dangos sut y mae llawer o'r problemau'n deillio o wallau yn nyluniad systemau nad ydynt yn cael eu canfod tan ei bod, yn aml, yn rhy hwyr.

Mewn trafodaeth â'r gynulleidfa, byddant yn ystyried sut y gellid osgoi'r problemau hyn fel bod cleifion yn fwy diogel, ac yn ymateb i syniadau am wella gofal iechyd mewn ysbytai sy'n dibynnu'n fwyfwy ar gyfrifiaduron.

Cynhelir digwyddiad arbennig, Ymchwilio i Gymunedau Diwydiannol ac Ôl-ddiwydiannol Cwm Tawe, ddydd Mercher 27 Chwefror i nodi cyfnod nesaf y prosiect Cymunedau Cysylltiedig.

Mae'r prosiect dwyieithog, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), mewn cydweithrediad agos â Chronfa Dreftadaeth y Loteri a phartneriaid eraill, ac a arweinir gan yr Athro Huw Bowen o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn y Brifysgol, wedi meithrin cysylltiadau cynaliadwy rhwng y Brifysgol a grwpiau cymunedol lleol, ac mae'n parhau i gefnogi a datblygu ymchwil mewn cymunedau lleol.

Bydd hefyd yn ehangu'n sylweddol ar brosiect Cu@Abertawe.  Arweinir y fenter gyffrous hon gan y Brifysgol mewn partneriaeth a Dinas a Sir Abertawe, gyda'r bwriad o ddatblygu safle 12½ erw yn Nyffryn Tawe Isaf oedd gynt yn gartref i Weithfeydd Copr Hafod a Morfa.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgwrs gychwynnol gan yr Athro Huw Bowen ar ddyfodol y Cwm Tawe diwydiannol a fu, gyda chyflwyniadau byr gan chwe phrosiect cymunedol lleol a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae'r rhain i gyd yn cynhyrchu ymchwil dreftadol sydd â ffocws cymunedol fel rhan o brosiect Cymunedau Cysylltiedig. Bydd y digwyddiad yn gorffen trwy ddangos sawl ffilm fer am y prosiect.

Bydd Chris Marshall, myfyriwr PhD yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y Brifysgol, yn traddodi darlith amser cinio ddydd Iau 26 Chwefror o'r enw Gwlad yr Addewid? Barak Obama a “Breuddwyd” Martin Luther King.

Mae'n hanner can mlynedd ers i'r Parch. Dr. Martin Luther King draddodi ei araith "Mae gen i Freuddwyd". Ar ddechrau ail dymor Arlywydd Affricanaidd cyntaf yr Unol Daleithiau yn y Tŷ Gwyn, mae’r ddarlith hon yn ystyried sut y mae Obama wedi sefydlu ei hun fel etifedd i’r Freuddwyd, sut y daeth yn rhan o hanes y frwydr dros hawliau sifil a beth y mae ei ethol wedi’i olygu i gysylltiadau hiliol yn yr Unol Daleithiau.

Mae Chris yn fyfyriwr ymchwil PhD mewn Saesneg, ac mae'n gweithio o fewn Uned Prosiectau Strategol a Chynllunio'r Brifysgol.  Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar y modd y cyflwynodd Barak Obama ei dras amlhiliol fel trosiad o America heb hiliaeth y byddai modd ei wireddu drwy ei ethol yn Arlywydd. Mae hefyd yn ystyried sut y mae ymgyrch etholiadol 2007/2008 yn sylfaen ar gyfer damcaniaeth newydd ynghylch rhethreg ar gyfer gwaredu euogrwydd.

Dyma rai o'r arddangosiadau ac arddangosfeydd fydd i'w gweld trwy gydol wythnos yr ŵyl:

Pontio'r Bylchau: Creu effaith drwy ymchwil ryngddisgyblaethol, yng Nghyntedd Adeilad Wallace, fydd yn dangos rhai o'r 50 o brosiectau rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol ar draws y campws a ariannwyd gan Bontio'r Bylchau. Mae llawer o'r prosiectau hyn wedi denu llawer o gydweithredwyr cenedlaethol a rhyngwladol i ddod at ei gilydd, ac wedi rhoi profiad gwerthfawr i ymchwilwyr o weithio ar draws ffiniau disgyblaethol a diwylliannol.

Y Goreuon o Gystadleuaeth 'Ymchwil fel Celf' Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe, yn Atriwm y Technium Digidol, fydd yn cynnwys llawer o’r delweddau gorau a ddangoswyd yn ddiweddar yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain, gan ennill sylw'r cyfryngau o lefydd mor bell i ffwrdd ag UDA, Tsieina, a Gwlad Roeg.  Trefnir y gystadleuaeth gan Richard Johnston, Darlithydd yng Nghanolfan Ymchwil Deunyddiau y Coleg Peirianneg, ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth. Yn ddi-os mae’n cynnig cipolwg rhyfeddol ar fyd ymchwil academaidd.

Cystadleuaeth Poster ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ôl-raddedig, yng Nghyntedd Adeilad James Callaghan (llawr gwaelod). Eleni, mae hyfforddiant arbenigol drwy’r Ganolfan Gwella Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol (APECS) a’r Colegau academaidd wedi cyflawni ystod gyffrous ac amrywiol o gynigion.  Bydd rhai ohonynt ar gael i'w gweld yn Arddangosfa'r Gystadleuaeth Poster ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ôl-raddedig, sy’n tystio i ansawdd y gwaith y gwneir a hefyd i’w ehangder a’i effaith.

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'r Ŵyl Ymchwil hon yn dangos gwaith arloesol Abertawe, ac yn dathlu egni'r amgylchedd ymchwil sydd bellach wedi'i sefydlu'n gadarn yn y Brifysgol.

"Mae'r ŵyl, yr unig un o'i math yng Nghymru ar hyn o bryd, wedi denu diddordeb a chyfraniadau, nid yn unig oddi wrth ein hymchwilwyr ein hunain, boed yn rhai gyrfa gynnar neu'n rhai sydd eisoes o fri rhyngwladol, ond hefyd oddi wrth ysgolheigion enwog sydd wedi dod i Abertawe i gymryd rhan. Mae'r rheini'n cynnwys, yn benodol, yr Athro Andrew Blake a'r Athro Ross Keppel - dau o'r bobl fwyaf blaenllaw yn eu maes; y cyntaf yng nghyfrifiadureg a'r llall yng ngwybodeg iechyd - ac rydym yn hynod o falch o'u croesawu.

"Mewn byd sydd yn gynyddol gyfoethog o ran technoleg a diwylliant, mae angen i ni i gyd ddeall y manteision a'r pryderon posibl sy'n deillio o ddatblygiadau ymchwil a allai effeithio arnom. Bydd y rhaglen hon o ddigwyddiadau yn caniatáu i gynulleidfa eang gael gwybod am, a thrafod, y datblygiadau o arwyddocâd byd-eang sy'n dod yn sgil ymchwil, a'r problemau sydd ynghlwm."

Dywedodd yr Athro Harold Thimbleby, Prif Ymchwilydd Pontio'r Bylchau, ac un o'r siaradwyr yn yr ŵyl: "Mae'r Ŵyl Ymchwil yn ddathliad cyhoeddus o amrywiaeth enfawr ymchwil y Brifysgol, gyda'i chysylltiadau â'r gymuned leol ac â'r byd y tu hwnt.

"Ceir cystadlaethau, arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus, celf, hanes, gwyddoniaeth, chwaraeon, diwinyddiaeth... mae rhaglen ragorol yr ŵyl yn dangos enghreifftiau o bopeth a wneir gan y Brifysgol. Ceir tipyn o bopeth - hwylus a difrifol - i ddiddori ac i ysgogi."