Meddyg o Abertawe'n helpu cyflwyno cyntaf arall i'r byd mewn gofal newyddenedigol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Tîm arloesol o feddygon ac arbenigwyr o Gymru a'r De-orllewin yw'r cyntaf i ddarparu nwy senon a therapi oeri mewn ambiwlans i fabanod newydd-anedig sy'n dioddef o ddiffyg ocsigen ar ôl genedigaeth.

XenonmachineGwnaeth Dr John Dingley, Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Treforys, rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Darllenydd mewn Anaestheteg yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe, ddylunio a mewnosod yr offer a ddefnyddiwyd i ddarparu nwy i ddau faban hyd yma, ar y ffordd i Ysbyty St Michael's ym Mryste.

Mae'r dechneg arloesol o ddarparu therapi oeri a nwy senon i blant wedi'i datblygu gan Marianne Thoresen, Athro mewn Niwrowyddoniaeth Newyddenedigol ym Mhrifysgol Bryste, ynghyd â Dr Dingley. Mae'r arbrawf hwn wedi'i ariannu gan Sefydliad Elusennol J P Moulton a SPARKS (Sport Aiding Medical Research for Kids).

Yn y DU, bob blwyddyn, mae dros 1,000 o fabanod a anwyd ar ôl cyfnod llawn sydd fel arall yn iach, yn marw neu'n dioddef anaf i'r ymennydd oherwydd diffyg ocsigen a/neu gyflenwad gwaed ar ôl geni. Gall hyn arwain at broblemau hirdymor megis parlys yr ymennydd.

Wrth sôn am y llwyddiant, meddai'r Athro Thoresen: "Mae senon yn nwy anaesthetig prin tu hwnt a geir mewn symiau bach iawn yn yr aer yr ydym yn ei anadlu. Yn 2002 sylweddolais i a Dr John Dingley y potensial y gallai cyfuno senon a therapi oeri ei gael i leihau anabledd ymhellach. Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, rydym wedi dangos yn y labordy bod senon yn dyblu'r effaith amddiffynnol o oeri ar yr ymennydd.

"O'r blaen, byddai angen i fabanod ddod i ni yn Ysbyty St Michael's i ddechrau triniaeth nwy senon ond rydyn ni'n credu ei fod yn hanfodol dechrau'r therapi senon cyn gynted â phosib ar ôl geni ac yn aml nid oes modd i fabanod ein cyrraedd o fewn pum awr er mwyn dechrau'r driniaeth.

"Nawr, mae Dr Dingley wedi dylunio ac adeiladu'r offer i ddechrau darparu senon i fabanod tra'u bod yn yr ysbyty sy'n cyfeirio o hyd ac yna tra'u bod yn cael eu trosglwyddo. Gobeithio y bydd hyn yn golygu y bydd cyfle i fwy o fabanod gymryd rhan yn yr arbrawf."

Bu Dr Dingley'n datblygu offer yn Abertawe ar gyfer anaesthesia senon mewn oedolion ac yn fwy diweddar mewn babanod ers dros 10 mlynedd. Mae ei beiriant yn cymryd y nwy a anadlir allan, yn cael gwared ar ddeunydd gwastraff ohono ac yn ei ailgylchredeg i'w anadlu eto heb golli unrhyw swm ohono i'r aer y tu allan.

Wrth esbonio'r datblygiad diweddaraf, meddai: "I leihau'r oedi rhwng geni a thriniaeth mae bellach yn gyffredin dechrau therapi oeri yn ystod y daith ambiwlans ac roeddwn ni am wneud hyn gyda'r senon hefyd. Felly datblygais fersiwn llai o'r system anadlu senon yr ydym yn ei defnyddio ar hyn o bryd yn yr uned fabanod, sy'n ffitio lle bach ar y system cludo babanod yn yr ambiwlans. Mae hyn yn golygu bod modd darparu senon i'r ysgyfaint yn barhaus, hyd yn oed pan fo'r baban yn cael ei symud.

"Mae'n rhaid i'r system ailgylchu'r holl nwyon a anadlir er mwyn cwtogi costau gan fod senon yn gostus tu hwnt, tua £30 y litr. Er mwyn atal unrhyw golled o senon, mae'r cylchred cyfan wedi'i fowldio'n arbennig a dim ond unwaith y gellir ei ddefnyddio, h.y. ar gyfer un baban yn unig. Mae gan y dull adeiladu hwn fantais fawr oherwydd nid oes unrhyw gysylltiadau braidd sy'n gallu gollwng, felly mae'r system yn effeithlon tu hwnt o safbwynt defnyddio senon. Mae cwtogi costau senon yn hanfodol bwysig. 

"Hefyd, mae senon meddygol dim ond ar gael ar hyn o bryd o'r Almaen mewn silindrau mawr, a fyddai'n broblem eu cludo yn yr ambiwlans ynghyd â'r holl offer arall. Ond gan fod y system anadlu wedi profi i fod mor effeithlon o ran nwy yn y babanod yr ydym eisoes wedi'u trin ym Mryste, sylweddolom nad oedd angen i ni fynd â'r silindr senon gyda ni yn yr ambiwlans o gwbl.

"Mae cadw cronfa o ddau neu dri litr o senon yn ddigon ar gyfer taith o nifer o oriau, felly dyma'r cyfan sydd angen i ni fynd gyda ni er mwyn rhedeg y system yn effeithiol. Mae hyn yn caniatáu i ni roi 50% senon yn y nwy anadlu o'r amser yr ydym yn casglu'r baban, drwy gydol y daith ambiwlans, ac yn ystod y cludiant o'r ambiwlans i'r ysbyty heb unrhyw seibiau yn y driniaeth o gwbl."

Wrth sôn am y driniaeth lwyddiannus, meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe: "Mae ymchwil Dr Dingley yma yn Abertawe'n amlygu'r buddion iechyd gwirioneddol y gellir eu hennill drwy ymchwil ar y cyd rhwng y GIG a phrifysgolion."

Mae Ysbyty St Michael's a Phrifysgol Bryste wedi datblygu triniaethau newydd ar gyfer anafiadau i'r ymennydd ymhlith babanod ers 1998, sy'n dangos y gall oeri babanod ar ôl prinder ocsigen leihau'r niwed yn ymennydd y baban newydd-anedig. Mae treialon clinigol o oeri bellach wedi profi bod oeri ysgafn gan ychydig raddau yn unig am gyfnod o 72 awr yn driniaeth ddiogel a buddiol. Fodd bynnag, mae oeri dim ond yn lleihau anabledd yn rhannol ac nid yw'n ei atal mewn pob baban.

Rydym wedi bod yn chwilio am ail driniaeth y gellir ei hychwanegu at therapi oeri i leihau anabledd ymhellach. O 2010 i 2011, am y tro cyntaf erioed, cymerodd 14 o fabanod a oerir yn Ysbyty St Michael's ran mewn astudiaeth yn archwilio a fyddai modd darparu senon yn ddiogel a heb sgil effeithiau. Cynhaliwyd yr arbrawf yn llwyddiannus gan ganiatáu cymeradwyaeth moesegol ar gyfer yr astudiaeth bresennol yn cymharu senon a therapi oeri gyda'r dull safonol o therapi oeri ar ei ben ei hun.

Hyd yma, mae 16 o fabanod wedi cymryd rhan y hap-brawf hwn gyda rheolydd. Mae oddeutu hanner y babanod wedi derbyn senon ac oeri a'r hanner arall y therapi oeri safonol. Y cynllun yw recriwtio 84 o fabanod i'r arbrawf, sef y nifer y rhagdybir sydd ei angen i ddangos gwahaniaeth rhwng y naill grŵp.