Myfyrwyr Prifysgol Abertawe'n brwydro i fod yn yrwyr mwyaf gwyrdd Prydain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Myfyrwyr o ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru i gystadlu yn Her Gyrru Diesel Economaidd Formula Student wedi'i bweru gan Bosch ar 18 - 21 Mehefin.Bydd myfyrwyr peirianneg o Brifysgol Abertawe'n cystadlu mewn her gyrru ddi-baid ar draws Prydain i gyd mewn ymgais i ennill y goron gyrwyr mwyaf economaidd y wlad.

Bydd y gystadleuaeth agoriadol hon a gynhelir dros dri diwrnod, sy'n dechrau ar Fehefin 18, yn mynd heibio 46 o brifysgolion ac mae wedi'i rhedeg ar y cyd gan Formula Student a Bosch.

Bydd pob tîm yn gyrru adran o'r llwybr - gyda'u gallu gyrru economaidd yn cael ei fesur gan gyfrifiaduron yn y car - cyn trosglwyddo'r cerbyd i'r brifysgol nesaf. Bydd y tîm o Brifysgol Abertawe'n gadael Prifysgol Abertawe am 7:20am ar Fehefin 19, ac yn gyrru 100 milltir i Gaerfaddon ynghyd â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Bydd Patrick Kniveton, Llywydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol - sy'n rhedeg Formula Student - yn dechrau'r digwyddiad ym mhencadlys y Sefydliad yn San Steffan am 11am.

O San Steffan, bydd y car yn mynd tua'r cam cyntaf ar y daith - Prifysgol Llundain Queen Mary yn Mile End - cyn i'r llwybr droi tua'r de ar hyd yr arfordir ac yna i'r gorllewin tuag at Abertawe.

Bydd yna'n mynd igam-ogam ar draws Lloegr a'r Alban tuag at y lleoliad terfynol, Prifysgol Aberdeen, ar Fehefin 21.

Bydd y timoedd yn gyrru Ford Fiesta, wedi'i yrru gan beiriant TDCi diesel 1.5 litr, sy'n defnyddio chwistrellwyr diesel Bosch cledrau cyffredin a phwmp tanwydd pwysedd uchel Bosch. Bydd monitro'r offer yn dadansoddi effeithlonrwydd bob tîm wrth yrru, gyda thair gwobr i'w hennill, sy'n cynnwys gyrru yn y ddinas, yn y wlad ac ar y ffordd fawr.

Joe O'Sullivan - Eco drive studentMeddai Joe O’Sullivan o Brifysgol Abertawe: "Rydw i'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y sialens hon i nodi 15fed pen-blwydd Formula Student."

Bydd cynrychiolydd o'r AA yn ymuno â'r myfyrwyr, sy'n cynnwys tri o Gymru a phump o'r Alban, ac yn eu helpu i gynllunio'r daith ac yn darparu canllawiau ar gyfer gyrru yn effeithlon.

Mae'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan i gyd yn rhan o Formula Student 2013, a fydd yn digwydd yn Silverstone o 4-7 Gorffennaf. Mae'r digwyddiad yn herio prifysgolion o ar draws y byd i ddylunio, adeiladu a rasio car rasio un sedd o'r dechrau mewn un flwyddyn - cyn ei brofi ar un o draciau rasio gorau'r byd.

Meddai Jon Hilton, Cadeirydd Formula Student: "Mae hon yn her wych a fydd yn sicr yn paratoi'r holl fyfyrwyr ar gyfer y gystadleuaeth ym mis Mehefin.

"Dyma'r tro cyntaf i ni ymgymryd â her yrru ar y raddfa hon a hoffwn ddymuno pob lwc i'r holl dimoedd."

Mae'r pellteroedd rhwng prifysgolion yn amrywio o dair milltir i dros 100 o filltiroedd, ond caiff pob tîm ei fonitro'n gyfartal. Caiff gwobrau eu rhoi yng nghystadleuaeth Formula Student yn Silverstone.

Meddai Peter Fouquet, llywydd Bosch UK: "Gyda chymorth technolegau Bosch, mae gan y cerbyd a ddefnyddir ar gyfer Her Gyrru Diesel Economaidd Formula Student allyriadau CO2 o 98g/km yn unig. Yn y dyfodol agos, mae Bosch yn gweld potensial ar draws holl segmentau cerbydau am ostyngiad hyd yn oed yn fwy mewn allyriadau carbon - hyd at 20 y cant mewn rhai achosion."

Yn ystod Her Gyrru Diesel Economaidd Formula Student, bydd gyrwyr yn defnyddio ap llywio â lloeren adran Amlgyfrwng Bosch Car, yn ogystal â chofnodydd data o is-gwmni Bosch, ETAS. Mae Shell, yn garedig iawn, yn darparu diesel FuelSave ar gyfer yr Her hon.