Naid Ymlaen: Lansio cydweithrediad i gynorthwyo busnesau gweithgynhyrchu Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y digwyddiad brecwast busnes am ddim hwn yn dangos sut mae cydweithredu rhwng dau brosiect pwysig yn gallu gwella'r cymorth sydd ar gael i fusnesau Cymru yn yr Ardal Cydgyfeirio, fel y byddant yn fwy cystadleuol. Y ddau brosiect yw ASTUTE a arweinir gan Brifysgol Abertawe, ac SEACAMS a arweinir gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â phrifysgolion Abertawe ac Aberystwyth.

ASTUTElogoSEACAMS

 

 

 

 

 

 

Teitl y digwyddiad: Naid Ymlaen - Gweithgynhyrchu'ch elw nesaf gyda phrototeipio/ argraffu 3D

Siaradwyr: Bydd siaradwyr yn ystod y digwyddiad yn cynnwys yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Prosiect ASTUTE, Nicole Esteban o brosiect SEACAMS, a'r Athro Rory Wilson a Dr Mark Holton o Wildbyte Technologies Ltd.


Wildbytes logoDyddiad:  Dydd Iau, 18 Ebrill 2013

Amser: Cofrestru, brecwast, a rhwydweithio i gychwyn am 7:45am, a bydd y digwyddiad yn gorffen am 10:15am, oni bai fod y rhai fydd yn bresennol yn dewis ymuno â'r daith ddewisol o gwmpas cyfleusterau ymchwil Prifysgol Abertawe (darperir bws mini i'w cludo).

Lleoliad:  Stadiwm Liberty, Glandŵr, Abertawe (http://www.liberty-stadium.com/index.php)

Mynediad:  Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae nifer y llefydd yn gyfyngedig ac mae angen rhag-gofrestru trwy fynd i: http://dailydiary.eventbrite.co.uk.


ERDFlogoCrynodeb o'r digwyddiad: Mae Prifysgol Abertawe'n atgyfnerthu ei hymdrechion i ddod ag academyddion a diwydiant at ei gilydd, ac mae gwahanol brosiectau'n cydweithio i helpu rhoi cymorth mwy cynhwysfawr i gwmnïau Cymru, fel y byddant yn fwy cystadleuol. 

Mae dau brosiect mawr, ASTUTE a SEACAMS, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, wedi gweithio gyda chwmni deillio Prifysgol Abertawe, Wildbyte Technologies Ltd, ar declyn Dyddiadur Dyddiol, sy'n dilyn symudiadau anifeiliaid (gan gynnwys pobl) yn y môr ac ar y tir.

Caiff y cydweithrediad hwn, a'i gynnyrch arloesol newydd - y Dyddiadur Dyddiol - eu lansio yn y digwyddiad hwn.