Pencampwriaeth Athletau i'w chynnal yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Daw Pencampwriaeth Athletau Ewrop y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol i Abertawe yn 2014. Dyma fydd y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal yn y DU

Bydd y Bencampwriaeth yn adeiladu ar lwyddiant Gemau Paralympaidd 2012, gan roi Cymru ar y map, yn genedl a all gynnal digwyddiadau chwaraeon anabledd llwyddiannus uchel eu proffil.

IPC Championships wheelchairs

Seiliwyd y cais llwyddiannus, a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe lle cynhelir rhan fwyaf y chwaraeon, ar bartneriaeth gref oedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Dinas a Sir Abertawe, Chwaraeon Anabledd Cymru, ac Athletau Prydain.

Rodd y cais yn addo digwyddiad o'r radd flaenaf trwy gyfuno arbenigedd sylweddol o ran cynnal pencampwriaethau uchel eu proffil, â gwybodaeth sylweddol o ran rheoli a chefnogi athletwyr elitaidd.  

Wedi croesawu gwersylloedd hyfforddi timau paralympaidd Mecsico a Seland Newydd yn 2012, mae Abertawe eisoes wedi dangos ei allu i gyflawni ar gyfer chwaraeon anabledd yn y cyfnod cyn Gemau Llundain. Bydd cynnal y Bencampwriaeth ym mis Awst 2014 yn helpu i adeiladu ar hynny, gan gefnogi ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ddarparu cyfleusterau chwaraeon blaenllaw, ac i barhau ymrwymiad y ddinas i chwaraeon cynhwysol.

IPC Championships aerial view

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol  Abertawe: "Rydym yn falch bod yr IPC wedi cydnabod y gall Prifysgol Abertawe, trwy weithio gyda'i phartneriaid, gynnal Pencampwriaeth broffil uchel, ac mae hynny'n cydnabod ein hymrwymiad i chwaraeon cynhwysol. Mae Cymru'n genedl sy'n hoff iawn o'i chwaraeon, ac nid oes unrhyw faes lle mae hynny'n fwy amlwg na maes chwaraeon anabledd a'r Gemau Paralympaidd. Mae sawl cenhedlaeth o Baralympwyr, hyfforddwyr, a staff cynorthwyol wedi cyfrannu i lwyddiant timau Prydain.

Ni chynhaliwyd Pencampwriaeth Athletau Ewrop y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn y DU o'r blaen, ac rydym yn falch bod Abertawe ar flaen y gad wrth adeiladu ar fomentwm Gemau Paralympaidd Llundain 2012 a chodi proffil chwaraeon anabledd ar draws Cymru a'r DU. Edrychwn ymlaen at sicrhau Pencampwriaeth lwyddiannus a adeiladir o gwmpas yr athletwyr, yn ogystal â sicrhau etifeddiaeth y gall Cymru gyfan, ac Ewrop, ei rhannu a theimlo'n falch ohoni."

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: "Dwi'n hynod o falch bod yr holl bartneriaid wedi llwyddo i ddenu Pencampwriaeth IPC i Abertawe. Yn sgil llwyddiant mawr Gemau Paralympaidd Llundain, bydd cynnal y digwyddiad hwn yn gyfle arall i ddatblygu athletau a hyrwyddo chwaraeon anabledd yng Nghymru a'r DU. Bydd gan y digwyddiad effaith economaidd sylweddol ar y ddinas a'r rhanbarth, a bydd yn codi proffil rhyngwladol ac enw da Abertawe a Chymru, yn lle i gynnal digwyddiadau mawr."

Dywedodd Jon Morgan, Cyfarwyddwr Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru:” Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn credu bod Cymru ac Abertawe yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau rhyngwladol, gyda chyfleusterau o safon uchel i sicrhau y gall athletwyr berfformio i'r lefel uchaf bosibl. Bydd cynnal Pencampwriaeth Athletau 2014 yn adeiladu ar gyflawniadau rhyfeddol athletwyr Cymru yng Ngemau Llundain yn 2012, yn ogystal â gyrru'r agenda etifeddiaeth yn ei flaen a hyrwyddo'r rhaglenni cenedlaethol yr ydym wedi'u datblygu yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau Pencampwriaeth y gall pawb yn Abertawe ac yng Nghymru fod yn falch ohono."

Meddai'r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Adfywio: "Mae llwyddiant yr Elyrch yn yr Uwch-gynghrair, a llwyddiant y Gweilch, eisoes wedi helpu i roi Abertawe ar y map rhyngwladol, ond bydd cynnal y bencampwriaeth athletau hon yn atgyfnerthu'n henw da, yn ddinas flaenllaw ar gyfer chwaraeon.

"Roedd Abertawe wedi bod yn llwyddiannus iawn fel cartref timau paralympaidd Mecsico a Seland Newydd yr haf diwethaf wrth iddynt baratoi at Gemau Llundain 2012.  Roedd yr athletwyr, yr hyfforddwyr, a'u teuluoedd yn canmol y ddinas, y croeso a roddwyd iddynt, ac ansawdd ein cyfleusterau chwaraeon.

Bydd y bencampwriaeth hon yn parhau i adeiladu ar etifeddiaeth wych y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd hefyd yn hwb i'r economi lleol trwy ddenu miloedd o ymwelwyr, a bydd yn cynyddu proffil Abertawe yn ddinas sy'n hen ddigon galluog i ddenu a chynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.

Dywedodd Paula Dunn, Prif Hyfforddwyr Athletau Paralympaidd Prydain: "Rydym wedi gweld o lygad y ffynnon sut mae cystadlu gartref yn rhoi hwb i athletwyr. Ar ôl gweld sut all cefnogwyr gartref wthio'r tîm i ennill medalau, dwi'n hynod o falch o'r ffaith y cynhelir Pencampwriaeth 2014 y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn Abertawe. Bydd hyn yn rhan allweddol o baratoadau'n hathletwyr at Rio 2016 a Llundain 2017, a byddwn yn ceisio ei ddefnyddio'n springfwrdd ar gyfer llwyddiant ymhellach ar y llwyfan byd-eang."