Prifysgol Abertawe ac Eglwys Gadeiriol Henffordd yn trefnu Symposiwm Canol Haf ar Ddiwylliant Jeswitaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Maurice Whitehead o'r Adran Hanes a'r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe a'r Canon Chris Pullin, Canghellor Eglwys Gadeiriol Henffordd yn cynnal symposiwm canol haf, ddydd Gwener 21 Mehefin, ar ddiwylliant Jeswitaidd yn y llyfrgell cenhadon Jeswitaidd mwyaf ym Mhrydain i oroesi o'r ail ganrif ar bymtheg.

Dan yr enw ‘The World is Our House': the seventeenth-century Hereford Cwm Jesuit Library in an international context, bydd y symposiwm un dydd yn Eglwys Gadeiriol Henffordd yn trafod byd cyfoethog a chyfareddol diwylliant Jeswitaidd (1540–1700).

I ddathlu'r digwyddiad, cynhelir cyngerdd gyda'r hwyr o gerddoriaeth sy'n gysylltiedig â cholegau Jeswitaidd yn y cyfnod modern cynnar, 1600 - 1750. Perfformir gwaith gan William Byrd, Tomás Luis de Victoria, Matthew Locke a Marc-Antoine Charpentier.  Hefyd, ceir perfformiadau modern cyntaf rhai eitemau a ddarganfuwyd yn yr archifau yn ddiweddar.

Daeth yr Esgob Herbert Croft â'r llyfrgell i Eglwys Gadeiriol Henffordd ym 1679, ac ni thalwyd fawr o sylw iddi ers hynny. Ar hyn o bryd, mae Hannah Thomas yn archwilio'r llyfrgell yn rhan o brosiect doethurol cyffrous ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe ac Eglwys Gadeiriol Henffordd, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Cafodd y symposiwm a'r cyngerdd nawdd hael oddi wrth Eglwys Gadeiriol Henffordd, Sefydliad y Jeswitiaid yn Llundain, Talaith Prydain Cymdeithas yr Iesu, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Phrifysgol Abertawe, a rhoddwr dienw.

Bydd rhaglen y symposiwm fel a ganlyn:

10.00 – Cofrestru a choffi yn Neuadd y Coleg, Eglwys Gadeiriol Henffordd

10.30 – Croeso a gosod y cyd-destun - Canon Chris Pullin, Canghellor Eglwys Gadeiriol Henffordd a'r Athro Maurice Whitehead, Prifysgol Abertawe

 

Panel Un: Celf, Gwyddoniaeth, a Cherddoriaeth y Jeswitiaid yn y cyfnod modern cynnar

10.45 – Y Jeswitiaid a'r Celfyddydau, 1540–1700 - Yr Athro Peter Davidson, Prifysgol Aberdeen

11.15 – Y Jeswitiaid a Gwyddoniaeth, 1540–1700 - Dr Adam Mosley, Prifysgol Abertawe

11.45 – Y Jeswitiaid a Cherddoriaeth, 1540–1750 - Dr Peter Leech, Prifysgol Abertawe

12.15 – Cwestiynau a Thrafodaeth

12.30–14.00 – Cinio Bwffe, gydag amser i weld yr arddangosfeydd o lyfrau a cherddoriaeth gynnar y Jeswitiaid, a thrysorau sanctaidd o'r Casgliadau Arbennig yng Ngholeg Stoneyhurst, Sir Gaerhirfryn, yn ogystal â Mappa Mundi Henffordd ac arddangosfa'r Llyfrgell Gadwynog.

 

Panel Dau: Y Jeswitiaid yng Nghymru a Lloegr tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ac yn yr ail ganrif ar bymtheg.

14.00 – Y Jeswitiaid yng Nghymru a Lloegr, 1580–1700: trosolwg - y Parchedig Dr Thomas McCoog, SJ, Prifysgol Fordham, Efrog Newydd, ac Archifydd Talaith Prydain Cymdeithas yr Iesu, Llundain

14.30 – Helen Wintour a gwneuthuriad urddwisg y Jeswitiaid yn Swydd Gaerwrangon yn yr ail ganrif ar bymtheg - Janet Graffius, Curadur Casgliadau Arbennig, Coleg Stoneyhurst

15.00 – Llyfrgell Jeswitaidd y Cwm yn Eglwys Gadeiriol Henffordd –Hannah Thomas, ymgeisydd PhD, Prifysgol Abertawe

15.30 – Cwestiynau a Thrafodaeth

16.00 – Sylwadau Cloi - Canon Chris Pullin, Canghellor Eglwys Gadeiriol Henffordd a'r Athro Maurice Whitehead, Prifysgol Abertawe

 

16.15 tan 17.15 – Arddangosfeydd ar agor

17.30 tan 18.15 – Cyfle i fynychu Gosber Corawl yn Eglwys Gadeiriol Henffordd, gyda cherddoriaeth ddigyfeiliant o'r ail ganrif ar bymtheg

 

19.30 – Cyngerdd

The World is Our House: Cerddoriaeth a gysylltir â cholegau Jeswitaidd yn y cyfnod modern cynnar, 1600–1750

Cappella Fede

Cyfarwyddwr Cerddorol – Peter Leech

Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflen archebu, ewch i wefan y symposiwm: worldisourhouse.blogspot.com, e-bost: library@herefordcathedral.org, neu ffoniwch 01432 374225/6.    Rhaid i bob archeb gael ei derbyn erbyn dydd Gwener, 7 Mehefin.