Prifysgol Abertawe yn dathlu genedigaeth gwleidydd enwog o Gymro

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

I ddathlu 150 mlynedd ers genedigaeth David Lloyd George, mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi bod drama am y gwleidydd enwog o Gymro, a ysgrifennwyd gan y dramodydd, D.J. Britton, wedi cyrraedd y rhestr fer am dair gwobr gan feirniaid theatr ifainc.

Cafodd y ddrama ffuglen un actor, The Wizard the Goat and the Man Who Won the War, ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan David Britton, uwch ddarlithydd sy'n arwain y cyrsiau ysgrifennu dramatig ar y rhaglen Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

Richard Elfyn

Mae David wrth ei fodd bod yr hyn y mae fe'n ei alw'n 'sioe raddfa fach' wedi cyrraedd y rhestr fer am dair gwobr Iaith Saesneg y tro cyntaf i Wobrwyon Beirniaid Theatr Cymru gael eu cynnal. Y tair gwobr yw: Actor Gwrywaidd Gorau (Richard Elfyn), Cynhyrchiad Gorau, a gwobr dramodydd Urdd yr Awduron (D J Britton). Cyhoeddir yr enillwyr mewn digwyddiad arbennig yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar 26 Ionawr.

Meddai David: "Dwi'n hynod o falch ein bod wedi'n henwebu gan bobl ifanc, ac wedi cyrraedd y rhestr fer am y gwobrwyon cyffrous hyn, gan fod angen i ni annog ein pobl ifanc talentog i archwilio, ac i ymuno â, byd cyffrous y theatr.

"Mae nifer o sioeau ardderchog yn cystadlu ym mhob categori, y rhan fwyaf ohonynt yn fwy o ran maint ac yn fwy ysblennydd - ond mae cyrraedd tair rhestr fer yn foddhaol iawn."

Mae'r cynhyrchiad, a lwyfannwyd gyntaf yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe cyn mynd ar daith genedlaethol, newydd ddychwelyd o Singapore, lle cafwyd cymeradwyaeth sefyll ac adolygiad gwych.