Prosiect ymchwil newydd yn galw am wirfoddolwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Wrth i'r newyddion am y ddarpar fam frenhinol ledu ar draws y wlad, mae Prifysgol Abertawe'n galw'r holl famau i gymryd rhan mewn astudiaeth iechyd newydd arloesol.

Mae Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe'n galw am fenywod beichiog i gymryd rhan mewn astudiaeth sy'n edrych ar effaith ymarfer corff ar famau sy'n disgwyl.

Mae'r prosiect EXPECT (Exercise in Pregnancy Evaluative Controlled Trial) yn ceisio dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddylanwad ymarfer corff rheolaidd ar iechyd mamau sy'n disgwyl yn ystod beichiogrwydd normal.

Ystyrir bod ymarfer corff yn fuddiol yn ystod beichiogrwydd a gall helpu wrth reoli salwch a achosir gan feichiogrwydd megis gorbwysedd a diabetes.  Serch hynny, does dim canllawiau ymarfer corff swyddogol yn seiliedig ar dystiolaeth ar gael i fenywod beichiog yn y DU, a all arwain at gyngor anghyson a dryswch.

Mae'r ymchwil hon yn adeiladu ar astudiaeth gyfredol ym Mhrifysgol Abertawe ar effaith beichiogrwydd normal ar weithred gardiofasgwlaidd menywod.

Ond ar gyfer yr astudiaeth newydd hon, bydd ymchwilwyr yn gofyn i wirfoddolwyr gael sgriniad iechyd cychwynnol, ac yna i ymuno ag un o ddwy raglen ymarfer corff grŵp a gynllunnir yn ofalus.  Gall menywod ymuno naill ai â rhaglen aerobeg ar y tir neu â rhaglen 'aerobeg dŵr' yn y pwll nofio. 

Meddai Dr Michael Lewis sy'n arwain y tîm ymchwil academaidd: "Er yr argymhellir ymarfer corff yn y dŵr i fenywod sy'n feichiog ar hyn o bryd, prin yw'r dystiolaeth sy'n awgrymu bod unrhyw wahaniaeth o ran dylanwad ffisiolegol rhwng ymarfer corff ar y tir ac ymarfer corff yn y dŵr.  Drwy gymharu'r ddwy raglen, rydym yn gobeithio taflu golau ar y mater hwn ac yn gobeithio casglu mwy o wybodaeth fanwl ar ymarfer corff i fenywod beichiog yn y dyfodol."

Gofynnir hefyd i gyfranogwyr ddod i'r swît cyn geni yn Ysbyty Singleton unwaith yn ystod pob tymor tri mis ac unwaith eto ar ôl genedigaeth y babi. Gyda phob ymweliad, caiff gwirfoddolwyr eu monitro wrth iddynt ymgymryd â chyfres o weithgareddau corfforol megis ymarfer camu ysgafn.

Nid oes un o'r profion ar gyfer yr astudiaeth arsylwi hon yn fewnwthiol a chaiff data'r holl gyfranogwyr ei drin yn gyfrinachol ac ni chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

Meddai Mr Simon Emery, Ymgynghorydd mewn Obstetreg a Gynaecoleg yn Ysbyty Singleton a phrif archwilydd yr astudiaeth: "Mae'r astudiaeth yn ceisio archwilio dylanwad ymarfer corff ar galon, pibellau gwaed a system nerfol y fam yn ystod beichiogrwydd normal. "Gyda chymorth ein gwirfoddolwyr, rydym yn gobeithio cael golwg fanylach ar fuddion iechyd ymarfer corff rheolaidd yn ystod beichiogrwydd a'i gyfraniad at wella gofal cyn geni."

Mae Mr Lindsay D’Silva a Miss Rhiannon Davies yn fyfyrwyr PhD sy'n gweithio ar y prosiect, ac maen nhw wedi'u hariannu gan Ysgoloriaethau Ymchwil Iechyd Llywodraeth Cymru.

Meddai Lindsay: "Mae oddeutu 40 o famau wedi cymryd rhan yng ngham cyntaf y gwaith hwn yn barod. Mae eu hymateb i'n hymchwil wedi bod yn wych. Maen nhw i gyd wedi bod yn frwdfrydig tu hwnt am gymryd rhan gan eu bod yn deall y buddion posib i ddarpar famau."

Dywedodd Rhiannon, a fydd yn gweithio ar yr astudiaeth EXPECT newydd dros y ddwy flynedd nesaf: "Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gam nesaf y gwaith pwysig hwn oherwydd dylai arwain at y dystiolaeth ffisiolegol go iawn gyntaf am fuddion gwahanol fathau o ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd."

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Miss Rhiannon Davies ym Mhrifysgol Abertawe - e-bost 480621@abertawe.ac.uk rhif ffôn 07757 250791.