The Christian Faith and The Financial Crisis

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y siaradwr gwadd ar gyfer y ddarlith nesaf yn y gyfres fydd yr Arglwydd Griffiths o Fforestfach.

Lord Griffiths of FforestfachSefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol ac mae wedi cynnwys arweinwyr eglwys o fri rhyngwladol ac academyddion blaenllaw o ledled y byd sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.

Teitl: The Christian Faith and The Financial Crisis

Siaradwr: Yr Arglwydd Griffiths o Fforestfach

Dyddiad: Iau 7fed Mawrth

Amser: 7pm

Lleoliad: Darlithfa Faraday 'A’, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Crynodeb:  Bu i'r Arglwydd Griffiths weithio dros lywodraeth Margaret Thatcher o 1985 tan 1990, yn bennaeth Uned Polisi'r Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing. Roedd yn ymgynghorydd arbennig i'r Prif Weinidog, ac yn gyfrifol am lunio polisi cartref, ac roedd yn un o brif benseiri rhaglenni'r llywodraeth ar gyfer preifateiddio a dadreoleiddio.

Roedd yr Arglwydd Griffiths yn ymddiriedolwr Cronfa Lambeth Archesgob Caergaint (1998 - 2002), ac mae'n Gadeirydd Cyfrifoldeb Cristnogol mewn Materion Cyhoeddus. Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau ar bolisi ariannol a moeseg Gristnogol, ac mae wedi darlithio'n helaeth ar faterion economaidd a'r berthynas rhwng Cristnogaeth a gwleidyddiaeth ac economeg.

Mae wedi ysgrifennu nifer o gyhoeddiadau academaidd ym maes economeg ariannol, yn ogystal â llyfrau ar foeseg Gristnogol mewn busnes.         

Fe'i ganwyd yn Fforestfach yn 1941, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Dinefwr ac Ysgol Economeg Llundain.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan, Prifysgol Abertawe. Ffôn: 01792 205678 est. 4442, neu e-bost:  n.john@abertawe.ac.uk