Tîm Gofal Tir Prifysgol Abertawe yn ennill brwydr rhyfeloedd y glaswellt

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm gofal tir Prifysgol Abertawe wedi'u cydnabod am eu harbenigedd, eu hymrwymiad a'u hangerdd yng Ngwobrau Diwydiant Blynyddol y proffesiwn pan adawon, am yr ail dro, â'r wobr Cae Artiffisial Gorau'r Flwyddyn.

Gwnaeth dîm gofal tir Abertawe ennill y wobr hefyd yn 2009.

Gan ganmol ei dîm meddai'r prif ofalwr tir John Courteney: "Mae'r cyfleusterau yn Abertawe’n darparu arwynebau chwarae o'r radd flaenaf i fyfyrwyr, staff, ac amrywiaeth o grwpiau uchel eu proffil a chymunedol. Mae'r wobr yn cydnabod gwaith cynnal o safon uchel i gyfleusterau caeau chwarae - gan ganolbwyntio yn yr achos hwn ar gaeau Astro.

Groundscare award team

"Un agwedd hanfodol o'r strategaeth gynnal ar gyfer arwynebau synthetig yw'r ffaith bod ein tîm gofal tir yn y brifysgol wedi'u hyfforddi'n briodol yn y gwaith o gynnal a rheoli arwynebau o'r fath. Mae ennill y wobr am yr ail waith yn llwyddiant mawr a hoffwn longyfarch fy nghynorthwywyr Ross Davies a Leighton Williams a'm cydweithiwr Andrew Griffiths (Rheolwr y cyfleusterau Cae Astro) a'i dîm Andrew Philips, Brian Culliford a Chris Nelson.

 

 

Mae cyfleusterau awyr agored Prifysgol Abertawe yn cynnwys trac athletau 8 lôn gydag ardal o laswellt y tu mewn iddo, dau gae chwarae astro sylfaen dŵr a chae pêl-droed a rygbi hefyd.

Mae timoedd rhyngwladol, athletwyr elit, clybiau lleol, ysgolion lleol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a'r Brifysgol yn defnyddio'r trac athletau a'r ganolfan hyfforddi dan do. Cafodd y cyfleusterau eu defnyddio hefyd fel canolfan hyfforddi gan athletwyr Paralympaidd cyn Gemau Paralympaidd Llundain – Seland Newydd a Mecsico.

Mae'r caeau Astro hoci hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer gemau Rhyngwladol, a hefyd gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, nifer o dimoedd hoci gan gynnwys tîm menywod sy'n chwarae yn yr Adran Uwch, myfyrwyr, grwpiau cymunedol ac ysgolion.

John Courteney and IOG award

Derbyniodd y tîm o Abertawe eu gwobr mewn seremoni yn debyg i'r Oscars yng Nghwrs Rasio Ceffylau Caer Efrog  a fynychwyd gan fwy na 350 o arbenigwyr gofal tir blaenllaw'r DU ac Ewrop o'r sectorau proffesiynol a gwirfoddol, yn ogystal â gwŷr pwysig o gyrff llywodraethu chwaraeon a gweinyddwyr chwaraeon dylanwadol, i anrhydeddu arbenigedd, ymroddiad ac angerdd proffesiwn gofal tir y wlad.

 

 

Mae'r gwobrau'n cydnabod arweinyddiaeth, mentergarwch a llwyddiant eithriadol ar draws pob agwedd o ofal tir - o gaeau ar lefel chwaraeon gwreiddiau i stadia proffesiynol. Roedd y gwobrau hefyd yn dathlu safonau ansawdd gofal tir a gyflawnwyd mewn lleoliadau chwaraeon cyhoeddus a phreifat, a gwnaethant amlygu cynnydd gweithwyr proffesiynol ifanc/myfyrwyr yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol yr ymgeiswyr.

Cafodd y Seremoni Wobrwyo IOG ei chynnal gan Mark Saggers o orsaf radio talkSPORT, yn dilyn diwrnod o gyflwyniadau Cynhadledd 'Ar Flaen y Gad' IOG gan rai o'r enwau mwyaf yn y byd chwaraeon, a’r diwydiant gofal tir a pharciau o naill ochr Môr yr Iwerydd.