Y Brifysgol yn cyrraedd yr uchelfannau gydag efelychydd hedfan newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd myfyrwyr Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe yn cyrraedd yr uchelfannau yn fuan gan fod system efelychu hedfan newydd sbon ar fin glanio yn y Coleg Peirianneg.

Penderfynodd y Coleg, sydd ag un efelychydd hedfan MP521yn barod, brynu'r efelychydd hedfan MP500-1 newydd, a adeiladwyd gan Grŵp Efelychu Hedfan Merlin, i wella darpariaeth ar gyfer ei niferoedd cynyddol o fyfyrwyr. Mae disgwyl i'r efelychydd gyrraedd yn hwyr ym mis Gorffennaf.

Gellir defnyddio'r efelychydd newydd i ddatblygu datblygiadau Cerbyd Awyr Di-griw a gellir ei gysylltu i'r MP521 presennol fel bod modd i'r naill efelychydd hedfan yn yr un gofod awyr rhithiol.

Meddai'r Athro Hans Sienz: "Mae'r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe gyda'i gynlluniau gradd awyrofod achrededig, arloesol wedi integreiddio defnyddio'r efelychydd hedfan yn narpariaeth ei raglen radd awyrofod fodern ac yn arbennig yn yr agweddau dylunio.

"Rydym yn ffodus iawn o gael arbenigedd mewnol ardderchog yn ein tîm technegol, sy'n gweithio'n agos gyda Merlin ar integreiddio'r efelychydd hedfan ymhellach yn ein haddysgu a hefyd ar wella gallu'r system.

Meddai Marion Neal, Cyfarwyddwr Marchnata Grŵp Efelychu Hedfan Merlin:  'Mae gweithio gyda myfyrwyr Awyrofod Prifysgol Abertawe bob amser yn wobrwyol tu hwnt, mae ganddynt gymaint o brosiectau'n rhedeg yn ystod y flwyddyn ar eu hefelychydd hedfan peirianneg MP521. Bydd prynu'r offer ychwanegol yn sicrhau bod gan yr holl fyfyrwyr ddigon o amser i fynd â'i gwaith datblygu awyrennau hyd yn oed ymhellach'.

Gwyliwch Beth a Roberto yn siarad am eu profiad o astudio Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe a gwyliwch yr efelychydd hedfan MP521 ar waith.