Ymchwil fel Celfyddyd - Cyhoeddi enillwyr 2013

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae stribyn comig sy'n esbonio rhyfeddodau sganio pelydr X ac argraffu 3D wedi ennill cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2013. Mae'r stribyn yn dangos sut mae defnyddio'r technolegau i argraffu copi perffaith o'r tegan y tu mewn i Kinder Surprise heb dorri'r wy.

Research as Art winner 2013 - Kinder egg xray
Ymchwil fel Celf yw'r unig gystadleuaeth o'i fath, ac mae'n agored i ymchwilwyr ym mhob pwnc, gyda phwyslais ar adrodd stori'r ymchwil yn ogystal â chyflwyno delwedd drawiadol.

Daeth cynigion gan ymchwilwyr mewn nifer o bynciau gwahanol, gyda theitlau megis:

• Offer newydd o gachu pryfed
• Pobl hŷn yn symud
• Gwrthsefyll temtasiwn
• Anffurfiad canoloesol - canllaw gafaelgar
• Dod o hyd i nodwydd mewn tas gwair pedwar dimensiwn


Enillwyr 2013

Daeth y beirniaid o sefydliadau blaenllaw yn y DU, gan gynnwys y Sefydliad Brenhinol - lle arddangoswyd y delweddau a enillodd y llynedd - Academi Frenhinol y Celfyddydau, Cynghorau Ymchwil y DU, a'r New Scientist

Laura North, myfyriwr peirianneg ôl-raddedig, gyflwynodd y ddelwedd,"Project Surprise", a enillodd y gystadleuaeth. Mae ei stribyn comig yn defnyddio wy Kinder Surprise i arddangos technolegau newydd, megis profi annistrywiol a phrototeipio cyflym trwy argraffu 3D, sy'n cynnig modd o sganio a dyblygu'r cynnwys cudd.

Dywedodd Laura North:

"Mae pob delwedd unigol yn dangos un cam o'r prosiect. Mae nifer o ffyrdd o ddefnyddio'r cysyniad hwn, gan gynnwys cydweithredu â'r Adran Eifftoleg i edrych ar olion nadroedd wedi'u mymïo, meddygaeth fodern, a chymalau artiffisial sy'n ffitio i'r dim."

Dywedodd un o'r beirniaid, Dr Gail Cardew, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth ac Addysg y Sefydliad Brenhinol:

"Roedd y cynnig hwn wedi cymryd syniad cymhleth gan ddangos, trwy gyfrwng stribyn comig, pa mor syml y byddai ei roi ar waith. Anodd yw cyfleu syniad haniaethol fel hwn, ond dewisodd yr ymchwilydd ffordd wreiddiol iawn o wneud hynny."


Enillwyr 2013

Research as Art 2013 Leifa Jenningsresearch as art - Menna price



Dywedodd beirniad arall, Flora Graham, golygydd digidol NewScientist.com:

"Mae mwy i ymchwil na'r ffeithiau caled sy'n cyrraedd y papurau a'r cylchgronau. Mae cystadleuaeth Ymchwil fel Celf yn datgelu'r profiad dynol dydd-i-ddydd sy'n cuddio y tu ôl i'r canlyniadau. Mae'r enillwyr wedi cyfuno geiriau a lluniau i roi cipolwg ar yr harddwch, yr amrywiaeth, a'r cymhlethdod y mae ymchwilwyr yn eu darganfod wrth wneud eu gwaith."

Dywedodd Dr Richard Johnson, o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, sy'n trefnu'r gystadleuaeth:

"Mae delweddau a haniaethau ysgogol yn ffordd wych o ddangos i'r cyhoedd rhyfeddod yr ymchwil a wneir yn ein Prifysgol. Mae'n gyfle i ymchwilwyr ymgysylltu â phobl, rhannu gwybodaeth â nhw, a'u hysbrydoli. Peth cyffrous yw gallu gwneud eich ymchwil yn hygyrch, ei ddwyn at sylw'r gynulleidfa ehangaf bosibl, a chyffroi pobl eraill hefyd."

Research as Art 2013 Ed Bennettresearch as Art 2013 - Adrian LuckmanResearch as Art Matt Carnie


Trefnir Ymchwil fel Celf gan Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe, ac fe'i cefnogir gan y rhaglen Pontio'r Bylchau.

Enillwyr 2013

Enillwyr 2012