Ymchwil Gwyddonol yn Datgelu Cyfrinachau Cynhesu Byd-eang

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd ymchwil newydd sy’n datgelu manylion am newidiadau yn hinsawdd y Ddaear ers dros 100,000 o flynyddoedd yn cael ei gyhoeddi arlein (ddydd Iau Ionawr 24 2013) yng nghyfnodolyn Nature, gan dîm o wyddonwyr yn cynnwys yr Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe.

Dengys yr ymchwil newydd newid syfrdanol yn hinsawdd y Ddaear a hefyd ceir arwydd clir bod y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf yn rhoi syniad o’r hyn sy’n debygol o ddigwydd i’r blaned o ganlyniad i’r nwyon tŷ gwydr a chynhesu byd eang.

Mi wnaeth yr Athro Siwan Davies yn ogystal ag ymchwilwyr o 14 o wledydd eraill deithio i’r Ynys Las i astudio rhew o’r cyfnod cynhesaf diwethaf ar y Ddaear, sef y cyfnod Eemian.

SiwanDavies

Mi wnaeth y tîm, o dan arweiniad Canolfan Rhew a Hinsawdd, Prifysgol Copenhagen dyllu mwy na 2.5 km i wely’r iâ rhwng 2008 a 2012 fel rhan o Brosiect Dryllio Iâ Eemian yr Ynys Las.

Dengys y darganfyddiadau bod hinsawdd yr Ynys Las rhwng 130,000 a 115,000 yn ôl 8 gradd celsiws yn gynhesach na heddiw a’r moroedd oddeutu pedwar i wyth metr yn uwch. Cafodd ymdoddi arwynebol eithafol ei gofnodi yn arbennig yn nyddiau cynnar y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf.

Ond mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod llen iâ yn yr ardal yma ond can medr yn is na’r presennol sy’n awgrymu bod llen iâ'r Ynys Las wedi cyfrannu at lai na hanner cyfanswm y twf yn lefel y môr yn ystod y cyfnod yma. Mae hyn felly’n awgrymu bod llen iâ Gorllewin Antartica yn gyfrifol am ran fawr o’r twf o 4-8m yn lefel y môr yn ystod y cyfnod.

Roedd yr ymdoddi arwynebol eithafol yn ystod y cyfnod cynnes Eemian a welwyd yng nghraidd yr iâ fel haenau o ddŵr wedi toddi wedi ail-rewi. Mae’r fath ddigwyddiadau yn y pum mlynedd diwethaf yn brin mewn cymhariaeth, sy’n cadarnhau bod tymheredd wyneb yr Ynys Las yn ystod y cyfnod Eemian llawer cynhesach na heddiw. Gwelwyd digwyddiad tebyg yn ystod y prosiect yng Ngorffennaf 2012, ac er mai digwyddiad eithafol oedd hwn, gallai cynhesu byd-eang yn y dyfodol arwain at ymdoddi cynyddol ar arwyneb yr Ynys Las.

Meddai’r Athro Siwan Davies o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe: ‘‘Am y tro cyntaf, mae record fanwl o’r newid yn yr hinsawdd yn ystod y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf wedi’i gofnodi o’r rhewlif dwfn yn yr Ynys Las a dengys yr astudiaeth bod ymchwilio i’r cyfnod yma’n holl bwysig er mwyn rhagweld sut fydd y blaned yn ymateb i fyd cynhesach.’’

Mae’r Athro Siwan Davies yn canolbwyntio ar ronynnau folcanig lludw o fewn yr iâ sy’n ei galluogi i ddyddio digwyddiadau hinsawdd sydd wedi’u croniclo yn yr iâ ac ailadeiladu hanes ac amlder echdoriadau folcanig y gorffennol. Caiff ei hymchwil ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a Chyngor Ymchwil Ewropeaidd.

I weld y papur sy’n dwyn y teitl “Eemian interglacial reconstructed from a Greenland folded ice core’’ ewch i http://www.nature.com/nature/journal/v493/n7433/full/nature11789.html

Llun: Yr Athro Siwan Davies yn astudio craidd yr iâ