Abertawe wedi’i henwi’n Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer partneriaeth fusnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi’i henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn’, yn ogystal ag ennill gwobr ychwanegol am y ‘Bartneriaeth Orau’, yn y seremoni wobrwyo ar gyfer Partneriaeth Busnes ac Addysg Insider yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Roedd timau ymgysylltu â Busnes a Cholegau Prifysgol Abertawe’n cynrychioli’r Brifysgol yn y digwyddiad, lle daethpwyd â phrifysgolion a cholegau ar draws Cymru ynghyd yn ogystal â nifer o gewri busnes byd-eang, gan gynnwys GE Aviation, Airbus, Cassidian a sêr technoleg blaenllaw megis Systemau Pŵer Morol Cyfyngedig Abertawe.

Cyflwynwyd gwobr ‘Prifysgol y Flwyddyn’ i gydnabod agwedd Prifysgol Abertawe at adeiladu cysylltiadau hirdymor gyda phartneriaid sy’n fuddiol i’r ddwy ochr a fydd yn eu tro’n darparu ymchwil a all arwain at bob math o fuddion economaidd a chymdeithasol.  

BEPA award presentation 2014Llun:  Yr Athro Iwan Davies, dirprwy is-ganghellor dros ryngwladoli a materion allanol, yn derbyn gwobr “Prifysgol y Flwyddyn” gan Emma Burns, pennaeth y grŵp gwasanaethau cyflogaeth ac AD, yn Hugh James, a noddodd y wobr.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor dros ryngwladoli a materion allanol, a dderbyniodd y wobr ar ran Prifysgol Abertawe:  

“Bydd rhaglen weledigaethol Prifysgol Abertawe sy’n werth £450m i ddatblygu ac ehangu’r campws ac sy’n cynnwys agor Campws y Bae ym mis Medi 2015, yn caniatáu i’r Brifysgol greu lle ychwanegol i annog mwy o gydweithio gyda diwydiant drwy gysylltiadau cynhyrchiol â chwmnïau rhyngwladol. Seilir y partneriaethau hyn ar ymddiriedaeth, cyfnewid gwybodaeth ar sail ddwyochrog a rhannu cyfleusterau a chryfderau.”

Roedd y wobr am y Bartneriaeth Orau rhwng academia a diwydiant yn ystyried cwmpas y gwaith a’r cydweithio, systemau ymgysylltu a’r canlyniadau a gafwyd.

Enillydd y wobr oedd y Coleg Peirianneg a’r Ganolfan Nanoiechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac SPTS Technologies, a fu’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu micro-nodwyddau ar gyfer cymwysiadau biomeddygol.

Ac yntau wedi’i ariannu drwy’r Bwrdd Strategaeth Technoleg dan y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), mae’r prosiect hwn wedi cefnogi ymchwilydd ôl-ddoethurol, Dr. Yufei Liu, ym Mhrifysgol Abertawe, sydd hefyd wedi treulio cyfnod sylweddol yn gweithio yn ffatri SPTS yng Nghasnewydd, yn Adran Ymchwil a Datblygu fewnol y cwmni.

Derbyniwyd y wobr gan Greg Burwell o’r Coleg Peirianneg a Huma Ashraf o SPTS Technologies.

Meddai Dr Owen Guy, athro cyswllt yn y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe:

“Bu’r KTP o fudd mawr i Abertawe o ran mynediad at offer ysgythru a dyddodi o’r radd flaenaf yn SPTS a sgiliau arbenigol ei dimau technegol. Mae hyn wedi arwain at ddatblygiadau newydd o ran dyfeisiau BioMEMS sy’n fwy ymarferol.

Mae gallu’r dyfeisiau hyn wedi cyfrannu’n fawr at y gwaith o greu cysylltiadau ar gyfer datblygu cynhyrchion BioMEMS yn fasnachol yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Paul Rich, Is-lywydd SPTS ar gyfer peirianneg cynhyrchion ysgythru a dyddodi:

“Er bod MEMS yn farchnad o bwys mawr y mae SPTS yn ei gwasanaethu, gan gyfrif am oddeutu 30% o’r offer yr ydym yn eu gwerthu, mae profiad y cwmni’n bennaf ym maes gweithgynhyrchu cynhyrchion MEMS maint uchel sefydledig megis gyrosgopau silicon a mesuryddion cyflymu ar gyfer cymwysiadau modurol neu ffonau clyfar.  

Rhoddodd y prosiect hwn adnoddau ychwanegol i ni archwilio ac arddangos canlyniadau o fewn marchnad ddatblygol BioMEMS, a rhagwelir y bydd y farchnad hon yn sbardun allweddol o ran twf y diwydiant MEMS dros y ddegawd nesaf.”