Athro Ffiseg wedi’i ethol i Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Mike Charlton o Brifysgol Abertawe wedi’i ethol i Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru - y sefydliad sy’n dathlu dysg yng Nghymru ar lefel ryngwladol ac sy’n ffynhonnell cyngor a sylwadau awdurdodol, ysgolheigaidd a beirniadol ar faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru.

mike charltonYr Athro Charlton, a fu yn y Brifysgol ers dros 14 blynedd, yw Pennaeth yr Adran Ffiseg, ac mae hefyd yn Gadeirydd Ffiseg Arbrofol.  Mae’r Athro’n rhan o dîm o wyddonwyr o Abertawe sy’n aelodau o gydweithrediad ALPHA (Cyfarpar Ffiseg Laser Gwrth-hydrogen) yn CERN (Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewrop).

Nod arbrawf ALPHA yw cymharu hydrogen a gwrth-hydrogen, er mwyn astudio cymesureddau sylfaenol rhwng mater a gwrth-fater a thaflu goleuni ar sut y cafodd y bydysawd ei greu. Bu modd i gydweithrediad ALPHA greu atomau gwrth-hydrogen, eu dal am gyfnodau hir, a pherfformio arbrofion cyntaf gan fesur eu nodweddion sbectrol. 

Meddai’r Athro Charlton: “Mae fraint fawr cael fy ethol i Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i helpu wrth hyrwyddo rôl y Gymdeithas, ac yn benodol ei gweithgareddau’n ymwneud â gwyddoniaeth a’i chymwysiadau, yng Nghymru a thu hwnt.”

I wylio’r Athro Charlton yn disgrifio’i waith ewch i: http://www.youtube.com/watch?v=rK4-79f0URU