Beth sy’n digwydd? Athro i ymddangos ar ‘Pawb a’i Farn’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Gwynedd Parry o Goleg y Gyfraith Prifysgol Abertawe yn ymddangos fel aelod o banel ar raglen S4C, “Pawb a’i Farn”, sydd yn cael ei ddarlledu o Bontardawe yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Professor Gwyn ParryMae’r rhaglen drafodaeth wleidyddol Gymraeg yn cael ei chyflwyno gan y darlledwr profiadol Cymraeg, Dewi Llwyd, a’r wythnos hon bydd panelwyr y rhaglen yn cynnwys Suzy Davies AC, y Farwnes Eluned Morgan a Dr Carol Bell.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar Ddydd Iau, 23ain Ionawr am 9.30yh, ar S4C.

Meddai’r Athro Parry: “Fel aelod o Sefydliad Hywel Dda'r Brifysgol rwyf yn falch iawn o gael y cyfle hwn i gyfrannu i drafodaeth gyhoeddus ac i hyrwyddo dealltwriaeth gyhoeddus o faterion llosg yn y Gymru gyfoes. Mae hefyd yn ffordd o ddangos ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg trwy gyfrwng darlledu yn y Gymraeg.”