Bydwraig yn cyhoeddi ei nofel gyntaf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae darlithydd bydwreigiaeth amlddawn ym Mhrifysgol Abertawe yn edrych ymlaen at lansiad ei nofel gyntaf, Inshallah.

Mae darlithydd bydwreigiaeth amlddawn ym Mhrifysgol Abertawe yn edrych ymlaen at lansiad ei nofel gyntaf, Inshallah.

Bydd Alys Einion, uwch ddarlithydd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn llofnodi copïau o'i nofel ac yn cynnal sesiwn holi ac ateb yn Siop Lyfrau John Smith's y Brifysgol am 1pm ar ddydd Iau, 17 Gorffennaf.

Er bod ganddi yrfa lwyddiannus mewn bydwreigiaeth, meddai Alys ei bod wedi breuddwydio am gyhoeddi nofel er oedd yn saith oed.

"Llafur cariad oedd ysgrifennu'r llyfr hwn. Gobeithiaf y bydd y darllenwyr yn deall yr hyn rwy'n ceisio'i gyfleu, sef stori y bydd nifer o fenywod yn gallu uniaethu â hi wrth iddynt ystyried eu penderfyniadau a'u profiadau. Mae'n ddirdynnol, yn gynhyrfus ac yn ddigyfaddawd,” meddai.

Adrodda Inshallah stori Amanda, sy'n symud i Sawdi-Arabia gyda'i meibion, sy'n efeilliaid, i fyw gyda'i gŵr, Mohammed.

Mae ei bywyd newydd yn rhyfedd ac yn ddryslyd, ac ymddengys y ffyrdd y caiff menywod y teulu eu trin yn anghywir i ferch a fagwyd yng Nghymru. Rhywsut, rhaid i Amanda ddianc, ond nid heb ei phlant. Menywod Arabaidd fydd ei hachubiaeth, er gwaethaf ymdrechion y dynion o'i chwmpas.

Ymchwiliodd ac ysgrifennodd Alys y llyfr fel rhan o PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Meddai iddi gael y syniad am y stori o ganlyniad i'w phrofiad ei hun a menywod yr adnabu.

"Pan oeddwn yn 19 oed gwnes i benderfyniad anesboniadwy i briodi rhywun anaddas, a symudais i ogledd Cymru, lle'r oedd pawb yn siarad Cymraeg, ond nid oeddwn i. Cefais fy hun yn byw bywyd mewn cyd-destun cymdeithasol nad oedd gennyf lawer o ddealltwriaeth ohono," meddai Alys

"Sylwais fod menywod yn gwneud penderfyniadau anesboniadwy pan glywais ffrind yn trafod mam a adawodd ei gŵr a'i phlant, priodi Moslem a symud i'r Aifft, a chlywodd neb ganddi eto."

"Yn hwyrach cwrddais â Moslem ffeministaidd, a drafododd y ffaith bod gwisgo Hijab yn brofiad rhyddhaol, yn hytrach na cyfyngiadol, i rai menywod. Sylwais fod gan rai menywod safle rhyfedd mewn diwylliant o'r fath, ac nad oes gennym syniad amdano fel pobl o'r tu allan. Felly, meddyliais, beth am fenyw Gymreig yn priodi mewn i deulu Arabaidd?"

"Rwyf wedi ceisio ysgrifennu rhywbeth y gellir ei gyhoeddi ar hyd fy oes. Rwyf wrth fy modd gyda fy nofel gyntaf. Rwyf eisoes yn ysgrifennu llyfr arall, yr wyf bron â'i orffen. Gobeithio y bydd fy nghyhoeddwyr yn ei hoffi ddigon i'w gyhoeddi hefyd," ychwanegodd.

Cyhoeddir Inshallah, gan Alys Einion, gan Honno, a'i bris yw £8.99.