‘Cwrdd â graddedigion sy’n entrepreneuriaid’ - Awgrymiadau a chyngor ar gychwyn busnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Mae’n cael ei drefnu gan y Coleg Meddygaeth a’r Coleg Gwyddoniaeth mewn partneriaeth â NVI Cymru a Chynghrair Meddalwedd Cymru.


Dyddiad: Dydd Mercher 19 Tachwedd

Amser: 12pm – 2.15pm

Cost: Am ddim

Lleoliad: Ystafell Robert Recorde, 205 Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe

I archebu lle cysylltwch â: http://www.eventbrite.co.uk/e/meet-the-graduate-entrepreneur-hints-and-tips-on-how-to-start-a-business-tickets-14066494263

Ar gyfer pwy: Myfyrwyr, graddedigion a busnesau newydd


Beth sy’n digwydd ar ôl i chi raddio? Ydych chi wedi ystyried y peth?

Dewch draw i’r digwyddiad amser cinio am ddim hwn, i chi gael cwrdd â Graddedigion sy’n Entrepreneuriaid a chlywed am eu profiad nhw o gychwyn busnes.

Siaradwyr gwadd:

‘Dechrau gweithio fel Meddyg Teulu’ - Dr John Rees, ‘Meddyg Teulu'r Flwyddyn Cymru’

‘Datblygu Ap Gofal Iechyd’ - Joe Purden a Gareth Yeung, BSc mewn Technoleg Glinigol, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe.

‘O radd i ddatblygu apiau’ – Andrew Ryan, un o raddedigion Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe, y mae ei fentrau busnes presennol yn cynnwys: Johnny On the Spot, Think Interactive Media a What’s That Ltd.

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys:

Cinio bwffe am ddim a chyfle i rwydweithioTrafodaeth panel gydag ymgynghorydd busnes a graddedigion sy’n entrepreneuriaidCyfle i gael sgwrs un i un gydag ymgynghorydd busnes neu ymgynghorydd bancio i fusnesauGwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ar y campws gan y Sefydliad Arweinyddiaeth Entrepreneuraidd (IfEL).


GEWMae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Mae’n cael ei drefnu gan y Coleg Meddygaeth a’r Coleg Gwyddoniaeth mewn partneriaeth â NVI Cymru a Chynghrair Meddalwedd Cymru.