Cynnydd uchaf erioed yn y nifer o geisiadau i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe'n derbyn y cynnydd uchaf erioed yn y nifer o geisiadau gan fyfyrwyr am leoedd ar ei chyrsiau.

Cafwyd cynnydd o 37% yn y nifer o geisiadau ar gyfer cyrsiau israddedig ers y llynedd, a chynnydd o 41% ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig.  Mae'r rhaglenni ôl-raddedig cyfrifyddu a chyllid yn arwain y ffordd gyda chynnydd anhygoel o 107% yn y nifer o geisiadau, sy'n fwy na dwbl nifer y llynedd.

Meddai'r Athro Niall Piercy, Dirprwy Ddeon Gweithrediadau'r Ysgol Reolaeth, "Yn ystod y naw mis diwethaf mae'r Ysgol Reolaeth wedi dioddef trawsffurfiad strategol mawr. Fel rhan o'r broses, datblygwyd mwy na deugain rhaglen israddedig a mwy na phymtheg rhaglen ôl-raddedig newydd i'w marchnata. Ailysgrifennwyd y catalog o fodiwlau a ddarperir i fyfyrwyr yn gyfan gwbl, ac mae bron ddwywaith ei faint mewn blynyddoedd blaenorol, a chyflwynwyd lleoliadau gwaith diwydiannol i fyfyrwyr israddedig o 2014. Cafwyd cynnydd o bron chwarter yn y nifer o staff academaidd, ac mae'r timau cymorth a phrofiad myfyrwyr wedi mwy na dyblu mewn maint. Yn haf 2015 byddwn yn symud i gyfleuster a adeiladwyd i'r diben fel rhan o Gampws newydd y Bae gwerth £450 miliwn Prifysgol Abertawe."

Mae'r Ysgol Reolaeth yn derbyn ceisiadau ar gyfer pob rhaglen sy'n dechrau yn 2014 o hyd.   Mae'r Ysgol yn parhau i gynnig gwerth mwy na miliwn o bunnoedd mewn ysgoloriaethau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ar gyfer derbyniadau mis Medi. Ewch i www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/colegau/ysgol_reolaeth am ragor o fanylion