Cysylltiad wedi’i ganfod rhwng meddyginiaeth ar ôl geni plant ac anawsterau bwydo ar y fron

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd o Brifysgol Abertawe’n dangos bod mamau sy’n derbyn meddyginiaeth ar ôl rhoi genedigaeth i blentyn i’w helpu i ryddhau’r brych yn fwy tebygol o gael anawsterau wrth fwydo ar y fron na’r rheiny nad ydynt yn derbyn meddyginiaeth.

Yn y DU, cynigir pigiad i famau ar ôl iddynt roi genedigaeth i’w plentyn i’w helpu i ryddhau’r brych. Gwneir hyn gan ei bod yn cyflymu’r broses o ryddhau’r brych ac yn lleihau colled gwaed. Fodd bynnag, mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod menywod sy’n derbyn y pigiad hwn yn llai tebygol o fod yn bwydo ar y fron 48 awr ar ôl yr enedigaeth na’r rhai hynny nad ydynt wedi derbyn y pigiad [1]. Aeth yr astudiaeth newydd hon ati i archwilio pam y gallai hyn ddigwydd.

Edrychodd yr astudiaeth ar 288 o famau â baban rhwng 0 - 6 mis oed, ac er i’r astudiaeth ddangos nad oedd gwahaniaeth o ran nifer y mamau a ddechreuodd fwydo ar y fron pan anwyd y baban, roedd y rhai hynny a gafodd y pigiad yn llai tebygol o fod yn bwydo ar y fron erbyn i’w baban gyrraedd dwy wythnos oed.

Aeth yr ymchwil ymlaen i ystyried pam bod y mamau wedi dechrau bwydo ar y fron ond wedyn wedi stopio gwneud hynny pan oedd y baban yn ifanc iawn. Dangosodd fod mamau a oedd wedi derbyn y pigiad hwn yn fwy tebygol o ddweud ei bod yn brifo llawer pan oeddent yn bwydo’r baban ar y fron neu fod y baban yn cael anawsterau wrth fwydo ar y fron o’u cymharu â’r mamau hynny nad oeddent wedi cael y pigiad.

Meddai Dr Amy Brown, Cyfarwyddwr Rhaglen yr MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Plant  o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r canfyddiadau’n ddiddorol iawn gan eu bod yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol y gallai meddyginiaethau a roddir i famau yn ystod yr esgor a’r enedigaeth wneud bwydo ar y fron yn fwy cymhleth ac maent yn esbonio pam bod cyfraddau bwydo ar y fron wedi gostwng wrth i’r nifer o enedigaethau cymhleth godi yn y DU. Roeddem yn gwybod yn barod fod menywod sy’n derbyn y pigiad hwn yn llai tebygol o fwydo ar y fron ond roeddem yn ansicr ynghylch y rhesymau dros hynny. Mae’r data hwn yn dweud wrthym pam: mae menywod yn fwy tebygol o brofi poen ac anhawster wrth fwydo eu baban ar y fron sydd felly’n eu harwain at laeth fformiwla.”

Esboniodd Dr Sue Jordan, Darllennydd yn yr Adran Nyrsio:  “Mae’n bosib bod y pigiad yn ymyrryd â’r prosesau ffisiolegol arferol sy’n digwydd ar ôl rhoi genedigaeth i blentyn. Mae bwydo ar y fron yn dibynnu ar hormonau a adwaenir fel ocsitosin a phrolactin. Mae’n bosibl bod y pigiad yn lleihau ymatebion naturiol y corff i’r hormonau hyn, gan wneud bwydo ar y fron yn fwy anodd. Mae’n bosibl na all y baban fwydo’n effeithiol a allai olygu bod y cyflenwad llaeth yn cael ei leihau. Gall hynny arwain at y problemau a ddisgrifiwyd gan y menywod yn ein hastudiaeth ni: poen, anhawster wrth annog y plentyn i fwydo, a’r baban yn methu ag ennill pwysau. Oherwydd y materion hyn, penderfynodd y mamau roi’r gorau i fwydo ar y fron.”

Meddai Dr Brown: “Rydym yn gwybod bod bwydo ar y fron yn bwysig i iechyd babanod a mamau fel ei gilydd ond hefyd fod nifer o wahanol ffactorau, nad ydynt bob amser dan reolaeth y fam, sy’n gallu effeithio ar fwydo ar y fron. Mae deall effaith meddyginiaethau a roddir i famau yn ystod yr enedigaeth yn bwysig ar gyfer y rhai hynny sy’n gweithio i gefnogi mamau newydd yn ystod y cyfnod hwn. Os ydym yn gwybod bod y pigiad hwn yn cynyddu’r risg o gael anawsterau wrth fwydo ar y fron, ond hefyd ei bod yn bwysig i grwpiau penodol o famau dderbyn y pigiad, byddwn yn ymwybodol o’r angen i roi rhagor o gymorth i’r menywod hyn er mwyn gwella’u profiad o fwydo ar y fron.”

Meddai Dr Jordan: “Mae canllawiau’r DU yn argymell bod menywod yn derbyn y pigiad hwn ar ôl iddynt roi genedigaeth i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i ryddhau’r brych ac i leihau colled gwaed. Fodd bynnag, mae’r canllawiau hefyd yn nodi y dylid cefnogi menywod sydd â risg isel o waedu os ydynt yn dewis peidio â chael y pigiad.  Mae angen gwneud rhagor o ymchwil i archwilio’r opsiynau gorau i famau newydd er mwyn deall y cydbwysedd rhwng diogelu menywod rhag colled gwaed eithafol a rhoi’r siawns orau bosibl iddynt o fwydo eu baban ar y fron.”