Darlith Gyhoeddus Diwinyddiaeth ‘Ageing and Spirituality’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cyfres Darlithoedd Cyhoeddus Diwinyddiaeth 2013/14 Prifysgol Abertawe'n parhau gyda darlith Ymddiriedolaeth Montgomery gan y Parchedig Ganon Dr James Woodward.

Sefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn wreiddiol gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol, ac mae’r rhaglen wedi cynnwys arweinwyr Eglwysig o fri rhyngwladol ac academyddion sy'n enwog yn fyd-eang sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.

Teitl y ddarlith: Ageing and Spirituality

Siaradwr: Y Parchedig Ganon Dr James Woodward

Dyddiad: Dydd Iau, 8 Mai 2014

Amser: 7pm

Lleoliad: Darlithfa James Callaghan, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb

Cyflwynir y ddarlith ar heneiddio ac ysbrydolrwydd gan y Parchedig Ganon Dr James Woodward, Canon Capel San Siôr, Windsor.  Yn y gorffennol bu'n Gyfarwyddwr Canolfan Leveson ar gyfer Heneiddio, Ysbrydolrwydd a Pholisi Cymdeithasol yn Temple Balsall ac yn Brif Gaplan Ysbyty'r Frenhines Elizabeth, Birmingham.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Parchedig Nigel John ar 01792 606444 neu e-bostiwch n.john@abertawe.ac.uk