Darlith Gymunedol Addysg Barhaus Oedolion mis Chwefror: Breaking Hearts in Antiquity – An antidote to Valentine's Day

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith nesaf yn y gyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ar ddydd Llun, 18 Chwefror yn Llyfrgell Ganolog Abertawe.


Teitl: Breaking Hearts in Antiquity – An antidote to Valentine's Day

Siaradwyr:  Dr Ian Repath, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Hanes a'r Clasuron, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe


Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Chwefror 2014

Amser: 6:00pm-7:45pm

Lleoliad: Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb.


Crynodeb am y siaradwr:  Mae Dr Repath yn Uwch-ddarlithydd y Clasuron sy'n addysgu'n eang ym meysydd iaith a llenyddiaeth Roegaidd a Lladin. Enillodd ei radd gyntaf, yn y Clasuron, o Brifysgol Rhydychen ym 1998, ac enillodd ei PhD o Brifysgol Warwick yn 2002 gyda thraethawd ymchwil ar ddylanwad Plato ar y nofel Roeg hynafol, Achilles Tatius. Mae'n un o aelodau sefydlol KYKNOS, Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth Draethiadol Hynafol Abertawe, Llanbedr Pont Steffan a Chaerwysg.


I gadw lle neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211 neu e-bostiwch adult.education@abertawe.ac.uk (sylwer na allwch gadw lle gyda'r lleoliad ei hun). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.