Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn nofio i godi arian er cof am y bardd, Nigel Jenkins

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Yr Athro Stevie Davies, darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, yn nofio i godi arian er cof am ei ffrind a chydweithiwr, y bardd o Abertawe a darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, Nigel Jenkins, a fu farw o ganser y pancreas ym mis Ionawr eleni.

Meddai'r Athro Davies, "Roedd Nigel yn athro barddoniaeth unigryw. Rwy'n gwybod y bydd yr holl fyfyrwyr ysgrifennu y cyffyrddodd caredigrwydd a doethineb Nigel â'u bywydau yn drist yn dilyn ei farwolaeth. Ein nod yn Abertawe yw troi'r tristwch hwnnw'n rhywbeth cadarnhaol ac ystyrlon. Rydym wedi addo'n benderfynol i barhau yn ysbryd Nigel.

"Mae'r Gronfa Ymchwil Canser y Pancreas yn gwneud gwaith angenrheidiol. Rydym yn gwybod mai 3% yn unig o bobl â diagnosis o ganser y pancreas oedd yn goroesi pum mlynedd neu fwy deugain mlynedd yn ôl. Yn gywilyddus, 3% yw'r ffigur o hyd heddiw."

I godi arian ar gyfer yr achos teilwng hwn, bwriadaf nofio o draeth Rotherslade, prif draeth Nigel, i Norton Point, rhyw ddiwrnod tawel ym mis Awst (gyda chymorth achubwr bywydau). Yn fuan cyn iddo farw, soniais am hyn wrth Nigel. Roedd yn credu ei fod yn syniad gwych."

Mae Dr Davies wedi creu tudalen ar wefan JustGiving yn http://www.justgiving.com/Stevie-Davies2 os hoffech gefnogi'r ymdrech hon.