Data Mawr – o Wyddoniaeth a Meddygaeth i Arloesedd Busnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Nod Cymru Deorfa Rithwir Genedlaethol Cisco (NVI Cymru), sy'n rhan o rwydwaith rithwir y DU sy'n torri tir newydd, wedi'i leoli yn ehi2 yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe.


Dyddiad: Dydd Iau, 23 Hydref 2014

Amser: 12:30pm-3:00pm

Lleoliad: ILS 2, Prifysgol Abertawe

Cost: Am ddim (darperir cinio bwffe)


Bydd y digwyddiad Rhwydwaith Deorfa Rithwir Genedlaethol (NVI) hwn yn dod â  siaradwyr cyweirnod o bob cwr o'r DU at ei gilydd i archwilio sut mae Data Mawr yn cynnig cipolwg ar dueddiadau sy'n ymddangos mewn data y gellir eu defnyddio ar gyfer arloesedd busnes a meddygol.

Mae casglu a datblygu data yn ffenomenon cynyddol. Bob munud, mae'r byd yn cynhyrchu 1.7 miliwn biliwn beit o ddata, dros chwe megabeit o ddata am bob person bob dydd. O ganlyniad, mae'r sector data yn tyfu 40% y flwyddyn, saith gwaith yn gynt na'r farchnad gwybodaeth a chyfathrebu gyffredinol, ac mae data mawr eisoes yn ein helpu i gyflymu gwneud diagnosis o anafiadau'r ymennydd, osgoi tagfeydd traffig a rhagweld cynnyrch cnwd mewn gwledydd datblygol, i enwi ychydig enghreifftiau'n unig.

Amcangyfrifir y bydd gwerth gwasanaethau a thechnoleg data mawr yn fyd-eang yn cyrraedd $16.9 biliwn yn 2015, ac y bydd data yn creu cannoedd o filoedd o swyddi newydd yn Ewrop. Mae busnesau sy'n seilio'u prosesau penderfynu ar wybodaeth a gafwyd o ddata yn gweld cynnydd o 56% yn eu cynhyrchiant. (EU PR, Brussels, 2 Gorffennaf 2014).