Dau amigo'n derbyn her CRYathlon yn Ne Amerig er budd elusen y galon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau raddedig diweddar o Brifysgol Abertawe'n paratoi at her elusennol lym yn Ne Amerig. Mae'r her, ar ffurf triathlon sy'n para tri mis, yn cychwyn ddydd Mercher, 2 Ebrill, er budd yr elusen Perygl Cardiaidd ymhlith Pobl Ifanc (CRY).

CRYathlonBydd Stephen Jones, 23 oed o Gaerfyrddin, yn cychwyn ar y 'CRYathlon', a chaiff gymorth yn ystod y cam beicio oddi wrth ei gyd gyn-fyfyriwr Tim Butt, sydd hefyd yn 23 oed ac sy'n hanu o Essex.  Cafodd Tim ataliad ar y galon, fu bron â'i ladd, ym mis Mai'r llynedd.

Elfennau'r CRYathlon yw: beicio 1,000 milltir o arfordir y dwyrain yn Buenos Aires i arfordir y gorllewin yn Santiago, ar draws iseldiroedd y Pampas;  cerdded tri brig ym mynyddoedd yr Andes; a chanŵio i lawr dros 1,000 milltir o'r Amazon, o Iguitos ym Mheriw i Manaus, prif ddinas yr Amazonas.

Graddiodd Tim Butt o Brifysgol Abertawe yn 2010 gyda BSc mewn Daearyddiaeth cyn mynd ymlaen i gwblhau MSc mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid Hinsawdd yn 2012, a dywedodd:  "Mae Her De Amerig yn ddechrau cyfres o weithgareddau codi arian ar sail heriau o dan faner y CRYathlon.  Trwy'r rhain, rydym yn ceisio codi £15,000 i ariannu sgrinio calon ac ymchwil meddygol trwy CRY."

Mae CRY yn elusen a sefydlwyd ym 1995 i godi ymwybyddiaeth am gyflyrau a all achosi marwolaeth gardiaidd sydyn mewn pobl ifanc, syndrom marwolaeth sydyn, a Syndrom Marwolaeth Arhythmig Sydyn

Ym mis Mai'r llynedd, cafodd Tim ataliad sydyn ar y galon yn ei gartref.  Cafodd ddiagnosis wedyn o gyflwr anghyffredin y galon, sef Syndrom QT Hir. Cafodd reolydd calon a diffibriliwr cardiaidd mewnol, ac ers hynny, mae wedi dod yn noddwr CRY.

Wrth siarad am y digwyddiad fu bron â'i ladd, dywedodd Tim, sy'n gyn-driathletwr elitaidd a chyn-feiciwr: "Roeddwn i’n eistedd gartref, newydd ddod yn ôl o Bortiwgal lle'r oeddwn wedi bod yn hyfforddi beicio am flwyddyn.  Yn ffodus, roedd fy mam, Sue, yn yr ystafell nesaf pan ddigwyddodd yr ataliad, a ffoniodd 999 yn syth wrth iddi fy ngweld yn dioddef beth mae hi'n ei alw'n 'ffit', ac yn cydio yn fy mron.

"Deffrois ddau ddiwrnod yn ddiweddarach yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Basildon, a doedd gen i ddim syniad beth oedd wedi digwydd. Ond, ers i fi gael y diagnosis o Syndrom QT Hir, dwi wedi mynnu cefnogi'r elusen CRY.  Gallaf ddweud, o lygad y ffynnon, fod yr elusen yn hanfodol bwysig, a gall arbed bywydau.

"Dwi'n hynod o ffodus i fod yma ar ôl y profiad hwnnw; dwi'n un o'r ychydig rai lwcus, a dwi mewn sefyllfa i wneud rhywbeth amdano."

Aelod arall o'r tîm yw Stephen Jones, a raddiodd o Brifysgol Abertawe yn 2011 gyda BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu, ac yn 2012 gyda MA yn y Cyfryngau Digidol. Mae wedi bod yn gweithio yn ddiweddar yn Gydlynydd Cyfathrebu ar gyfer y prosiect Technocamps a leolir ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Stephen yn Llywydd Clwb Tuthwyr Abertawe, sef y Clwb Athletau, Traws Gwlad a Thriathlon i gyn-fyfyrwyr Phrifysgol Abertawe.  Meddai: "Roeddwn am droi fy nghynlluniau i deithio'n rhywbeth unigryw a gwerth chweil.  Roeddwn wedi f'ysbrydoli gan Mark Beaumont, a gerddodd ac a feiciodd trwy'r Amerig, a chan Her y Misisipi - pan fu grŵp o dri unigolyn yr wyf yn eu hadnabod yn bersonol yn caiacio ar hyd y Misisipi.

“Yn fuan iawn, ces i syniad bras o wynebu amgylchedd naturiol De Amerig trwy her oedd yn cyfuno beicio, cerdded a chanŵio. Roeddwn i'n gwybod bod hyn yn rhywbeth fyddai'n canu cloch i Tim, o ran ei ymdrechion codi arian ar gyfer CRY.  Awgrymais y syniad sylfaenol iddo, ac ers hynny, rydym wedi bod yn ffocysu ar fapio ein cynllun a'n llwybr, ennill nawdd, a gwella'n ffitrwydd mewn da bryd."

Hyd yma, mae'r ddau wedi bod yn ffodus i dderbyn cymorth nifer o ffrindiau a'u teuluoedd, ac i gael cymorth ariannol oddi wrth Roboform UK, cymorth gyda chynnyrch oddi wrth Block Head Energy Gum, a chymorth gyda chyhoeddusrwydd oddi wrth We Create Digital.

Byddant yn cynnal lansiad ar gyfer y fenter yn Neuadd Christ Church yn Billericay yn Essex ddydd Sadwrn 29 Mawrth, cyn hedfan i Dde Amerig ddydd Mercher 2 Ebrill i gychwyn yr her.

"Mae ein hachos yn bersonol iawn ac yn haeddiannol iawn, ac rydym yn mawr obeithio y bydd myfyrwyr a staff y Brifysgol, a'r gymuned ehangach yn Abertawe, yn cefnogi ein her," ychwanegodd Stephen.