Deon o Brifysgol Abertawe a cherddor brwd yn cael ei gydnabod am ei ragoriaeth addysgu eithriadol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Derek Connon, sy’n Athro Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe wedi’i gydnabod gan y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol am ei addysgu ac mae bellach yn ymuno â grŵp nodedig o athrawon ar draws y DU sydd wedi’u penodi’n Gymrodorion Addysgu Cenedlaethol.

Mae’r penodiad mawreddog hwn yn cydnabod, yn gwobrwyo ac yn dathlu unigolion y bernir eu bod cyfoethogi profiad dysgu’r myfyrwyr. Bob blwyddyn rhoddir hyd at 55 o wobrau gwerth £10,000 yr un i gydnabod rhagoriaeth unigol. Bwriedir y wobr ar gyfer datblygiad proffesiynol y Cymrodorion Addysgu Cenedlaethol mewn addysgu neu ddysgu neu agweddau ar addysgeg.

Derek Connon

Ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl gyda gradd BA mewn Ffrangeg, dechreuodd yr Athro Derek Connon ymchwil ar gyfer PhD ar weithiau theatraidd Diderot. Roedd y pwnc hwn yn apelio ato oherwydd ei ddiddordeb ym maes llenyddiaeth Ffrangeg a hefyd gan ei fod yn hoff o actio ac yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd gyfarwyddo cynyrchiadau myfyrwyr yn Ffrangeg.  Cwblhaodd ei PhD yn 1984, ond erbyn 1982 roedd eisoes wedi dechrau swydd darlithydd 3- blynedd ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast. Yn dilyn hyn gweithiodd ym Mhrifysgolion Caerwysg a Sant Andreas. Diolch i’r amrywiaeth hon o brofiad, roedd ganddo agwedd eangfrydig tuag at addysgu mewn prifysgolion, ac roedd hyn wedyn o fudd mawr iddo pan ddechreuodd ei swydd bresennol yn Abertawe yn 1989.

Yn Abertawe bu Derek yn addysgu ar nifer o fodiwlau ar lenyddiaeth Ffrangeg a diwylliant Ffrengig; gan ddefnyddio yn ei addysgu destunau o’r 17eg ganrif i’r 20fed ganrif ym mhob genre llenyddol, ond gyda phwyslais penodol ar ei arbenigaeth, drama. Mae hefyd wedi cyfrannu at ddarlithoedd ar sinema, cerddoriaeth a chelf. Fel pob arbenigwr mewn ieithoedd modern, mae Derek wedi rhoi dosbarthiadau ar yr iaith Ffrangeg, gyda diddordeb penodol mewn cyfieithu, ac mae wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu astudiaethau cyfieithu yn yr adran.

Yn ogystal â bod yn aelod o’r Pwyllgor Dysgu ac Addysgu a’r Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau yn y Brifysgol, ac yn gadeirydd y Pwyllgor Achosion Myfyrwyr Israddedig, bu Derek yn ddigon ffodus i fod yn aelod o’r pwyllgor â’r dasg o ddiwygio seilwaith academaidd y Brifysgol; datblygiad â’r bwriad o hyrwyddo cydraddoldeb yn y modd y caiff myfyrwyr eu trin a rhannu arferion da. O ganlyniad i’r newidiadau dilynol, symudodd Derek o fod yn Ddeon y Celfyddydau a’r Dyniaethau, i fod y cyntaf i ddod yn Ddeon Myfyrwyr Israddedig ac mae’n mwynhau’r rôl yn fawr.

Yn ogystal â’i ddiddordebau academaidd, mae Derek yn gerddor brwd, sydd weithiau’n ymddangos yn ei addysgu a’i ymchwil.

Wrth siarad am ei benodiad yn gymrawd, meddai’r Athro Connon: “Mae’n fraint o’r mwyaf i mi gael fy nghydnabod am fy ngwaith yn y ffordd hon. Fodd bynnag, rydym oll yn gweithio’n rhan o dîm a theimlaf fod y wobr hon nid yn unig yn cydnabod fy ymdrechion i, ond hefyd ymdrechion fy nghydweithwyr mewn Ieithoedd Modern ac aelodau’r Gofrestrfa Academaidd sy’n fy nghefnogi yn fy rôl fel Deon, gan ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i roi’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr yn Abertawe.'

Meddai Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yr Athro John Spurr: ‘Rydym oll wrth ein boddau ar ran Derek, ei fyfyrwyr - yn gyn-fyfyrwyr, yn fyfyrwyr presennol ac yn fyfyrwyr y dyfodol - a’r Coleg cyfan.  Mae bod ag athro sydd mor dalentog a phoblogaidd yn ein plith yn ysbrydoliaeth: mae’r wobr gwbl haeddiannol hon yn cadarnhau’r addysgu ardderchog yn gyffredinol ac yn benodol ym maes Ieithoedd Modern.”

Cafodd y Cymrodorion Addysgu Cenedlaethol llwyddiannus eu dewis o blith dros 180 o enwebiadau a gyflwynwyd gan sefydliadau addysg uwch ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd pob un yn derbyn gwobr werth £10,000 a ddefnyddir i gefnogi eu datblygiad proffesiynol mewn addysgu a dysgu neu agweddau ar addysgeg.

Cafodd yr enwebeion llwyddiannus eu henwebu gan eu sefydliadau ac roedd yn rhaid i gyflwyniadau ddangos tystiolaeth o dri maen prawf: rhagoriaeth unigol, codi proffil rhagoriaeth a datblygu rhagoriaeth.

Mae Cymrodorion Addysgu Cenedlaethol eleni’n cynnwys academyddion o ystod amrywiol o ddisgyblaethau gan gynnwys Cemeg, Peirianneg, y Celfyddydau, Ieithoedd, Mathemateg, Nyrsio, Addysg a Seicoleg. Maent hefyd yn cynnwys arbenigwyr cyfoethogi dysgu sy’n gweithio ar draws y disgyblaethau i ddatblygu dulliau dysgu ac addysgu arloesol.