Graddedig Peirianneg o Brifysgol Abertawe’n derbyn Gwobr Salters

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyflwynwyd gwobr fawreddog, sef Gwobr Salters i Raddedigion mewn Peirianneg Gemegol, i Daniel Eade, graddedig MEng o Brifysgol Abertawe

Dan yw’r myfyriwr cyntaf o Brifysgol Abertawe i ennill y wobr fawreddog hon. Ymunodd Dan â phedwar o fyfyrwyr peirianneg gemegol eraill o Gaerfaddon, Nottingham, Caergrawnt a Strathclyde a gafodd eu dethol ar gyfer y wobr hefyd. Mae Dan eisoes wedi arddangos ei sgiliau arwain pan dderbyniodd y Wobr Arweinyddiaeth Uwch gan yr Academi Frenhinol Peirianneg y llynedd.

Wrth dderbyn ei wobr meddai Dan:

“Caniateir i bob Prifysgol enwebu un myfyriwr i’w ystyried ar gyfer y wobr, felly roedd yn fraint enfawr i gael fy nethol yn enwebiad Prifysgol Abertawe. Bu raid i mi fynd i Lundain i gael cyfweliad a oedd yn cynnwys ateb cwestiynau gan 2 banel, un o Sefydliad Salters a’r llall a oedd yn cynnwys arbenigwyr mewn Peirianneg Gemegol. Roedd yn eithaf anodd gan fod rhaid i mi ateb cwestiynau ar faterion o fewn y diwydiant cemegol, fy nghynlluniau gyrfaol a hefyd fy mhrofiadau blaenorol.

“Anrhydedd o’r mwyaf oedd derbyn gwobr mor fawreddog, a mwy fyth i’w derbyn gan yr Arglwydd Sainsbury o Turville.

“Ar ôl graddio gwnes i bach o waith gwirfoddoli ar gyfleusterau trin dŵr cost isel yn Siem Reap yng Nghambodia. Rwyf bellach yn gweithio fel Peiriannydd Prosesu i Valero yn eu purfa ym Mhenfro, a’r nod nesaf i mi yw dod yn siartredig. Rwyf yn parhau i ddysgu o hyd y tu allan i’r gweithle ac rwyf wedi gwneud cyrsiau ar Werthu a Chyllid, Economeg a sgiliau arwain ers graddio. 

“Fy nymuniad o hyd yw bod â swydd arweiniol o fewn olew a nwy, felly byddaf yn parhau i weithio’n galed, ac yn parhau i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a fydd yn caniatáu i mi ddatblygu fel arweinwr yn y sector olew a nwy.”

Dan Eade Salters Prize

Mae Sefydliad Salters yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi addysgu cemeg, annog pobl ifanc i ddilyn gyrfaoedd yn niwydiannau cemegol y DU, a hyrwyddo addysg gemegol gan gynnwys datblygu’r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd. Dyfernir hyd at ddeg o wobrau Salters i Raddedigion, sydd oll yn werth £1,000 yr un, i israddedigion blwyddyn olaf sy’n astudio mewn prifysgolion yn y DU, gyda’r nod o gadw cydbwysedd cyfartal rhwng cemegwyr a pheirianwyr cemegol.

 

Mae Cynllun Gwobrau Uwch yr Academi Frenhinol ar agor i israddedigion MEng yn eu hail flwyddyn ar radd 4 blynedd mewn peirianneg neu israddedigion MEng sydd yn eu trydedd flwyddyn ar radd 5 mlynedd. Rhoddir hyd at £5,000 i’r rhai hynny sy’n ennill gwobrau i ddilyn eu cynllun datblygu personol dros gyfnod o dair blynedd ac i alluogi’r myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen i roi eu gyrfa ar y trywydd cyflym ar ôl graddio.

Llun: (o’r chwith i’r dde) Dr Chris Russell, Meistr Cwmni Salters, Daniel Eade, yr Arglwydd Sainsbury o Turville.