Gweithdy NVI Cymru: Cydymffurfio, Dylunio a Gweithgynhyrchu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Nod Cymru Deorfa Rithwir Genedlaethol Cisco (NVI Cymru), sy'n rhan o rwydwaith rithwir y DU sy'n torri tir newydd, wedi'i leoli yn ehi2 yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe.


Gweithdy NVI Cymru: Cydymffurfio, Dylunio a Gweithgynhyrchu

Siaradwr: Alan Mumby. Mae Alan yn ymgynghorydd dylunio ac arloesi â phrofiad sylweddol o ddarparu a rheoli datrysiadau creadigol ac arloesol i fusnesau ar draws Cymru.


Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2014

Amser: 12pm-2pm

Lleoliad: ILS 2, Prifysgol Abertawe

Cost: Am ddim i gwmnïau cychwynnol a BBaChau

I gadw lle:  www.eventbrite.co.uk/e/compliance-design-manufacture-workshop-tickets-13455619119 


Mae troi eich syniad yn gynnyrch a rhoi bywyd i brototeip yn rhan gyffrous o'r broses datblygu cynnyrch newydd. Ond gall hefyd fod yn gam drud ar daith y cynnyrch i'r farchnad. Mae cydymffurfio, dylunio a gweithgynhyrchu yn allweddol er mwyn sicrhau canlyniad cadarn, cost-effeithiol a llwyddiannus.

Bydd y gweithdy hwn yn rhoi craffter cryno a gwerthfawr ar:

  • Cydymffurfio – sicrhau bod y cynnyrch yn cydymffurfio â safonau a deddfwriaeth berthnasol y diwydiant;
  • Dylunio – creu cynnyrch sy'n ddiogel ac yn 'addas i'r diben';
  • Gweithgynhyrchu - gwneud y cynnyrch mor syml a chost-effeithiol â phosib i'w weithgynhyrchu.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, ac mae cadw lle ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer y gweithdy am ddim hwn.