Help gan Blizzard

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gallai siacedi arbennig sydd wedi’u gwneud yng Nghymru helpu i gadw athletwyr Cymru’n gynnes pan fydd y gystadleuaeth yn poethi yn Glasgow.

Bydd athletwyr Cymru’n cael defnyddio siacedi newydd Blizzard, sydd wedi’u cynllunio i gadw eu cyhyrau a’u corff ar dymheredd optimwm ar gyfer cystadlu.   

sportwales logo       

Er bod ymarfer cynhesu’n rhan annatod o drefn athletwr, yn ystod yr amser cyn i gystadleuaeth ddechrau, fe all golli llawer o wres a gall hynny arwain at lai o bŵer yn y cyhyrau a mwy o risg o anaf.  I ddatrys y broblem, mae Chwaraeon Cymru wedi gweithio gyda Rhwydwaith Arloesi Chwaraeon Perfformiad Elitaidd Cymru (WEPSIN) a chwmni o Gymru, Blizzard Protection Systems Ltd. 

Bydd campau fel nofio, athletau a saethu’n defnyddio’r siacedi yng Ngemau’r Gymanwlad.        

Fel rhan o WEPSIN, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil gan Dr Liam Kilduff o Brifysgol Abertawe a’r Athro Christian Cook o Brifysgol Bangor, gan ddangos bod y siacedi’n effeithiol i wella perfformiad athletwr.                                 

"Y rhesymeg ar gyfer defnyddio’r cynnyrch yma ydi bod cyfnodau sylweddol o amser rhwng pan mae’r athletwyr yn gwneud eu hymarfer cynhesu a dechrau’r gystadleuaeth, a bryd hynny mae’r athletwyr yn gallu colli llawer ar dymheredd y cyhyrau,” dywedodd yr Athro Kilduff.

“Rydyn ni’n gwybod bod tymheredd uchel yn y cyhyrau’n hanfodol i alluogi i athletwyr gynhyrchu lefelau uchel o bŵer. Hefyd, mae tymheredd uchel yn y cyhyrau’n helpu i leihau’r risg o anaf. Mae’r cynnyrch yn galluogi i athletwyr gynnal tymheredd y cyhyrau yn ystod y cyfnodau posib hyn o golli gwres."

Mae WEPSIN yn rhwydwaith ledled Cymru sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru, gan weithio gyda Chwaraeon Cymru a busnesau Cymru.                

Mae’r cwmni o Fethesda, Blizzard, yn cynhyrchu deunyddiau goroesi i’r gwasanaethau milwrol a brys, ymhlith amrywiaeth o gynhyrchion eraill.

Dywedodd Jackie Webb, Rheolwr Datblygu Busnes y cwmni:

“Rydyn ni wedi gwneud llawer o gynhyrchion pwrpasol i athletwyr, i fodloni eu gofynion unigol nhw a gofynion eu campau.       

“Mae’r deunydd yn y cynnyrch ar gyfer athletwyr Cymru wedi cael ei gynllunio a’i ddefnyddio’n wreiddiol ar gyfer bagiau goroesi i ddringwyr a cherddwyr, ac mae wedi datblygu dros y blynyddoedd i gael ei ddefnyddio’n helaeth gan fyddin UDA a Phrydain ar gyfer trin hypothermia mewn achosion o drawma. Mae’n cael ei ddefnyddio’n eang erbyn hyn gan y gwasanaethau brys, gan gynnwys y gwasanaethau tân ac achub ac ambiwlans, a’r timau chwilio ac achub a’r ambiwlans awyr.                   

“Yn ddiweddar, cafodd ein siacedi a’n trowsusau ni eu defnyddio gan Amy Williams a Lizzie Yarnold pan wnaethon nhw ennill medalau aur y sgeleton.”

Bydd y dechnoleg a’r defnydd o’r siacedi’n ychwanegiad pwysig at baratoadau sêr y byd chwaraeon ar gyfer Glasgow.

Dywedodd Scott Simpson, hyfforddwr perfformiad cenedlaethol Athletau Cymru:

“Mae manteision ffisiolegol cynnal gwres yn bwysig iawn ac mae pawb yn ymwybodol ohonyn nhw bellach. Felly, rydyn ni bob amser yn chwilio am yr un y cant yna o fantais yn ein perfformiad ni o gymharu â’n gwrthwynebwyr ac roedd penderfynu defnyddio dillad Blizzard yn benderfyniad hawdd.     

“Mae’r athletwyr sy’n defnyddio’r dillad i ymarfer a chystadlu wedi sylwi ar fantais fawr o ran perfformiad. Wrth gystadlu, mae yna hefyd y fantais seicolegol ychwanegol o wybod bod gennych chi rywbeth nad oes gan eich gwrthwynebwyr sy’n helpu eich perfformiad.         

“Ar y cyfan, mae wedi bod yn bartneriaeth wych ac yn un yr ydyn ni’n hyderus i barhau â hi wrth symud ymlaen.”

Mae rheolwr gwyddoniaeth chwaraeon a ffisiolegydd gyda Nofio Cymru, Natalie Williams, yn rhan o dîm y prosiect hefyd. Dywedodd:             

“Mae siacedi Blizzard yn cael eu defnyddio yn ystod cyfnodau estynedig, fel rhwng gorffen ymarfer cynhesu a rasio, oherwydd y rheolau cystadlu sy’n dweud bod rhaid i’r nofiwr fod yn yr ystafell alw 20 munud cyn rasio.

“Y nod ydi cynnal tymheredd y cyhyrau ar ôl yr ymarfer cynhesu er mwyn gwella’r allbwn pŵer, ochr yn ochr â mecanweithiau ffisiolegol eraill i wella perfformiad nofio.”

Dywedodd Rheolwr Perfformiad Ffederasiwn Saethu Targed Cymru, John Dallimore;

“Rydyn ni wedi rhoi cynnig arnyn nhw ar y meysydd saethu yn ystod y gaeaf ac mae’r athletwyr yn teimlo eu bod nhw’n fuddiol iawn.     

“Bydd y menig a’r blancedi ar gael i’w defnyddio gan yr athletwyr ar feysydd saethu pistol, reiffl a gwn Gemau’r Gymanwlad.”