Joshua Ferris yn cipio Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Joshua Ferris yw enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2014, a noddir gan Brifysgol Abertawe, a hynny am ei nofel, To Rise Again at a Decent Hour (Viking).

Joshua FerrisBellach yn ei nawfed flwyddyn, mae’r Wobr yn dathlu etifeddiaeth y bardd a'r awdur o Abertawe, Dylan Thomas, a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i waith yn ei ugeiniau.

Dyfernir y Wobr, sy’n cynnwys gwobr ariannol o £30,000, am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd neu a gynhyrchwyd yn yr iaith Saesneg gan awdur sy’n 39 oed neu’n iau. Mae’r Wobr yn dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol, ac mae’r gystadleuaeth yn agored i bob genre - barddoniaeth, rhyddiaith a drama.

Mae To Rise Again at a Decent Hour, a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Man Booker 2014, yn nofel gomedi dywyll am ystyr bywyd, y sicrwydd o farwolaeth, a phwysigrwydd hylendid y geg dda.

Yn ogystal â To Rise Again At A Decent Hour, mae Joshua wedi ysgrifennu dwy nofel o'r blaen: Then We Came to the End, a enwebwyd ar gyfer y Wobr Lyfrau Genedlaethol, enillodd Wobr PEN/ Hemingway a chyrhaeddodd rhestr hir Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian; a'r nofel fawr ei bri, The Unnamed. Yn 2010 dewiswyd Joshua ar restr The New Yorker o'r ugain awdur ffuglen gorau dan 40 oed. Mae'n byw yn Efrog Newydd.

Meddai Peter Stead, Sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas: “Mae nofel Joshua, am ddeintydd o Efrog Newydd sy’n wynebu rhwystredigaethau ei swydd, ei berthnasau rhywiol a’i hunaniaeth yn cael ei dynnu i fyd ehangach lle mae’n  darganfod y modd y mae cyfryngau electronig a chyltiau crefyddol yn llywio nid yn unig ei fywyd, ond ei hunaniaeth yn ogystal. Dyma nofel sy’n cipio rhwystredigaeth, egni a’r hiwmor sy’n rhan o gynhysgaeth Efrog Newydd”.

Yn ogystal â siec am £30,000, derbyniodd Joshua gast efydd unigryw o Dylan Thomas.

Meddai Peter Florence, Sylfaenydd Gŵyl y Gelli, a Chadeirydd y panel beirniadu: "Mae pobl sy'n gallu gwneud comedi o gomedi dynol yn brin a rhyfeddol. Mae'n beth hynod o galed i wneud, ac mae’n cymryd rhyw fath o athrylith i drosglwyddo hynny ar bapur".

Meddai’r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe sy’n noddi’r Wobr: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o’r bartneriaeth gyda’r Wobr. Mae gennym nodau cyffredin: i feithrin talent, i ddathlu creadigrwydd, ac i gyflawni rhagoriaeth ryngwladol. Rydym am gymryd y gorau o Abertawe i'r byd, a dod ag artistiaid, ysgolheigion a myfyrwyr o bob cwr o'r byd i Dde Cymru”.

Roedd Panel beirniadu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2014 yn cynnwys:

  • Sylfaenydd Gŵyl y Gelli, a Chadeirydd y panel beirniadu, Peter Florence
  • Bardd o India, newyddiadurwr a dawnswraig, Tishani Doshi
  • Bardd ac Athro Saesneg ym Mhrifysgol Austin, Tecsas, Kurt Heinzelman
  • Newyddiadurwr ac awdur, Carolyn Hitt
  • Awdur, cantores a chyflwynydd ar BBC Radio 6, Cerys Matthews MBE
  • Nofelydd a cholofnydd The Telegraph, Allison Pearson
  • Sylfaenydd a Llywydd y Wobr, Peter Stead
  • Newyddiadurwr Guardian Review, Nicholas Wroe

Roedd y rhestr fer eleni yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a drama, gyda sawl awdur yn tynnu ar Gymru, Lloegr, Iwerddon, Jamaica, America a Seland newydd am ysbrydoliaeth.

  • Eleanor Catton, The Luminaries (Granta)
  • Owen Sheers, Mametz (National Theatre Wales)
  • Joshua Ferris, To Rise Again at a Decent Hour (Viking)
  • Eimear McBride, A Girl is a Half-Formed Thing (Galley Beggar/ Faber & Faber)
  • Kseniya Melnik, Snow in May (Fourth Estate)
  • Kei Miller, The Cartographer Tries to Map a Way to Zion (Carcanet Press)
  • Naomi Wood, Mrs Hemingway (Picador)